Cau Pont y Borth am gyfnod er mwyn cynnal archwiliad diogelwch
Bu'n rhaid cau Pont y Borth rhwng Ynys Môn a'r tir mawr am gyfnod brynhawn Gwener.
Dywedodd Traffig Cymru fod y penderfyniad i gau y bont ychydig wedi 15:00 wedi ei wneud am fod "cerbyd dros bwysau" wedi croesi'r bont.
O ganlyniad roedd y ffordd ar gau er mwyn cynnal archwiliad.
Dywedodd Traffig Cymru mewn datganiad: "Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra, mae eich diogelwch yn holl bwysig. Carem eich hatgoffa mai cerbydau o dan 7.5t yn unig sy’n cael croesi Bont y Borth."
Cafodd y bont ei hail-agor ychydig cyn 16:30.
Mae'r bont eiconig yn dathlu ei phen-blwydd yn 200 oed eleni.
Mae cyfyngiadau ar bwysau cerbydau mewn grym ar y bont ar hyn o bryd wrth i waith atgyweirio ar y strwythur hanesyddol gael ei gwblhau.
Fe fydd y gwaith atgyweirio hwnnw ar y bont yn parhau tan o leiaf dechrau 2027 meddai Llywodraeth Cymru ym mis Ionawr.
Yn wreiddiol roedd disgwyl i’r gwaith ddod i ben yn y gwanwyn eleni.
Fe gafodd terfyn pwysau newydd ei gyflwyno ar ôl "cyngor brys" gan beirianwyr strwythurol ym mis Hydref y llynedd.
Roedd archwiliad wedi darganfod bod angen gosod bolltau newydd ar drawstiau'r bont, ac fe gafodd y bont ei chau yn llwyr am gyfnod.
