Cyfyngu ar arforgampau mewn rhannau o Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro

Cyfyngu ar arforgampau mewn rhannau o Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro

Fe allai teithiau arforgampau masnachol neu coasteering gael eu gwahardd mewn rhai lleoliadau ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro os oes yna dystiolaeth eu bod yn amharu ar fywyd gwyllt neu'r amgylchedd.

Fe fydd system drwyddedu newydd yn cael ei chyflwyno ar 1 Mai ar gyfer unrhyw deithiau ar dir y parc, gydag asesiadau amgylcheddol yn cael eu paratoi ar gyfer bob llwybr.

Dywedodd Prif Weithredwr Awdurdod y Parc, Tegryn Jones na fydd rhai lleoliadau ar gael os oes yna dystiolaeth o effaith negyddol ar fywyd gwyllt neu'r amgylchedd.

Yn ôl un cwmni teithiau arforgampau mae'n newyddion trist bod trefniadau gwirfoddol yn dod i ben ac nad oes digon o rybudd wedi bod am y drefn newydd.

Ar hyn o bryd, mae teithiau arforgampau yn cael eu cynnal mewn 12 lleoliad yn y Parc.

Fe ddechreuodd arforgampau masnachol yn Sir Benfro yn y 1980au, ac mae'n cyfuno dringo, nofio a cherdded ar hyd y glannau.

Tan nawr, mae cwmnïau masnachol wedi cadw at gôd gwirfoddol i ddiogelu yr amgylchedd a byd natur, ond fe bleidleisiodd aelodau'r awdurdod ar 25 Mawrth i gyflwyno trefn drwyddedu newydd o fis Mai ymlaen, gyda chwmnïau yn gorfod talu £100 am drwydded. Mi allai'r gost honno gynyddu yn y dyfodol. 

Dywedodd Awdurdod y Parc bod y drefn drwyddedu yn cael ei chefnogi gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, sydd yn berchen ar dir yn y Parc. 

Image
Tegryn Jones, Prif Weithredwr Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro
Tegryn Jones, Prif Weithredwr Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro


Yn ôl Tegryn Jones, mae trwyddedau eisioes yn cael eu defnyddio i "reoli gweithgaredd masnachol" fel ffilmio neu gwerthu hufen iâ yn y Parc.

Mae Mark Hicks o gwmni Tenby Adventure wedi bod yn cynnig teithiau yn Lydstep ac Ystagbwll yn ne'r sir ers 10 mlynedd, ac mae'n dweud mai arforgampau yw'r gweithgaredd "mwyaf poblogaidd" sydd yn cael ei gynnig gan ei gwmni yn enwedig yn ystod misoedd yr haf. 

Mae'n dweud ei fod e'n "teimlo yn drist" bod y trefniadau gwirfoddol i reoli'r gweithgaredd yn diflannu.

"Mae'n drist i feddwl bod rhywbeth oedd yn seiliedig ar gydweithio yn cael ei gau lawr, ac mae rhywbeth statudol yn dod yn ei le. Roedd y cydweithio yn llwyddiannus. D'wi ddim yn credu y bydd bywyd gwyllt yn elwa."

Fe ddaw'r penderfyniad ar ôl i Awdurdod y Parc Cenedlaethol golli achos cyfreithiol yn yr Uchel Lys ym mis Medi 2025 yn sgil her gan y grŵp Wild Justice. 

Fe ddiddymwyd caniatad cynllunio ar gyfer canolfan chwaraeon awyr agored newydd yn Nhrewyddel ger Bae Ceibwr ar ôl i'r Barnwr benderfynu nad oedd digon o wybodaeth wedi'i chyflwyno am effaith bosib gweithgareddau ar safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig Aberarth-Carreg Wylan, a nad oedd arolwg o adar bridio wedi cael ei rannu'n llawn gyda'r pwyllgor rheoli datblygu.

Mae ymgyrchwyr bywyd gwyllt yn pryderu bod arforgampau yn tarfu ar adar sydd yn nythu ynghyd â morloi yn y Bae.

Dywedodd un ymgyrchydd bywyd gwyllt, Dagmarr Moore wrth Newyddion S4C ei bod hi'n "croesawu" y drefn drwyddedu newydd ond roedd ganddi bryderon am "bwy fydd yn monitro" yr hyn sydd yn digwydd ym Mae Ceibwr. Mae hi'n ffafrio gwaharddiad llwyr yno.

"Ni dal yn meddwl hynny, achos mae rhywbeth sbeshal fan hyn. Mae llawer o lefydd i wneud yr un peth dwy filltir i fyny neu i lawr yr arfordir, ac mae llawer o bobl gydag arian yn dod yma i weld yr adar a'r morloi a'r pethau gwyllt sydd yn byw yma. Mae llawer o lefydd eraill - llefydd gyda pharcio a thoiledau a hufen ia."

Yn ôl Mark Hicks, mae'r gweithgaredd yn cael "effaith gadarnhaol" yn ne'r Sir. Dywedodd fod ei gwmni wed clirio dros 130 o ddarnau o hen offer pysgota y llynedd, ac wedi achub rhyw 15 o adar oedd wedi mynd yn gaeth yn yr offer.

Image
Mark Hicks o gwmni Tenby Adventure
Mark Hicks o gwmni Tenby Adventure

Roedd e'n cefnogi oedi'r broses o gyflwyno'r trwyddedau. 

"D'wi ddim yn credu bod llawer o amser wedi bod i bobl feddwl am sut i wneud hyn mewn ffordd ofalus. Efallai byddai'n gall i gael cyfnod prawf, ble mae modd arfbrofi gyda gwahanol fframweithiau. D'wi bendant yn meddwl bod angen datblygu'r hyn sydd wedi ei gynnig hyd yn hyn."

Yn ôl Prif Weithredwr y Parc, Tegryn Jones, fe fydd trwyddedau yn cynnig "llawer gwell rheolaeth dros y diwydiant a sicrhau y safonau amgylcheddol uchaf" ac fe fydd system drwyddedu yn "rhoi mwy o hawl i ni ymyrryd a diogelu byd natur" pan mae yna broblemau yn codi. 

Dywedodd perchennog un cwmni sydd yn cynnig y teithiau, oedd ddim am gael ei enwi, ei fod e'n poeni am yr effaith ar ei fusnes yn sgil y drefn drwyddedu newydd, ac fe alwodd ar y Parc i oedi'r broses fel bod modd cynnal mwy o ymgynghori.

Fe wnaeth y diwydiant ymwelwyr gyfrannu £639m o bunnau i economi Sir Benfro yn 2024 yn ôl Visit Pembrokeshire.

Yn ôl Tegryn Jones, mae'r Parc wedi bod yn trafod gyda chwmnïau "ers y llynedd" ac mae'r system yn cael ei chyflwyno mewn ffordd "deg i ganiatau i busnesau parhau i weithio."

"Ni'n ceisio sicrhau ein bod ni yn addas ar gyfer y dyfodol ac unrhyw drafferthion all godi. D'wi ddim yn gweld bod yna unrhyw fygythiad i fusnes unrhywun."

Dywedodd Mr Jones ei fod yn gobeithio y bydd rhestr derfynol yn cael ei chyhoeddi o leoliadau erbyn mis Mai, a nad oedd yn gweld angen i ohirio'r broses. 

Mae cyfyngiadau tymhorol ar chwaraeon antur eisioes wedi cael eu cyflwyno ar Ynys Mon i warchod safleoedd sensitif.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.