Y Brodyr Croft yn gobeithio denu mwy o nosweithiau bocsio mawr i Gymru
Mae'r brodyr Croft yn gobeithio y gall eu gornest yng Nghaerdydd noson cyn i Tyson Fury wynebu Anthony Joshua yn Stadiwm Principality helpu i ddangos y gefnogaeth sy'n bodoli i focsio yng Nghymru.
Gobaith y brodyr o Grymych yw y bydd eu gornestau'n annog hyrwyddwyr i ddod â mwy o nosweithiau mawr yn ôl i'r wlad yn y dyfodol.
Daeth cadarnhad y bydd y bocswyr di-guro yn ymddangos ar gerdyn yn Arena'r Fro yng Nghaerdydd ar 10 Rhagfyr, gyda'r digwyddiad yn cael ei ddarlledu'n fyw ar DAZN.
Wrth ymateb i'r cyhoeddiad, dywedodd Garan Croft ei fod wrth ei fodd yn cael y cyfle i ymladd yn y brifddinas unwaith eto.
"Jyst gwych i gael y fight wedi'i gadarnhau yng Nghaerdydd. Mae'n dda bod nôl yn y brifddinas, felly jyst edrych ymlaen nawr," meddai.
Mae'n credu bod cynnal digwyddiadau mawr yng Nghymru yn rhoi cyfle i gefnogwyr lleol weld rhai o sêr y gamp yn agosach at adref, tra hefyd yn helpu i ddatblygu'r gamp yn y wlad.
"Mae'n rhoi cyfle i lot o fechgyn o 'nol adref ddod lan i weld ni'n ymladd, ac mae'n rhan o adeiladu ni yng Nghymru hefyd, a chreu'r gefnogaeth yna," meddai.
"Mae jyst cael y cyfle i focsio nôl yng Nghymru yn ffantastig."
Er bod eu ffocws ar y noson ym mis Rhagfyr, mae Ioan eisoes yn edrych ymlaen at gyfleoedd am deitlau yn y dyfodol ac yn credu y gall cefnogaeth Crymych a Chymru chwarae rhan allweddol yn hynny.
"Rydyn ni wedi gwerthu lot o docynnau ar gyfer mis Rhagfyr yn barod, felly gobeithio y bydd Matchroom yn gweld bod gennym ni gefnogaeth fawr yng Nghymru," meddai.
"Os gallan nhw weld hynny, efallai bydd hynny'n rhoi ychydig o bwsh iddyn nhw ddod â ni nôl i Gymru flwyddyn nesaf. Falle tuag at ddiwedd y flwyddyn gyda theitl ar y lein. Byddai hynny'n enfawr i ni."
Bydd y ddau frawd o Orllewin Cymru yn gobeithio y gall noson lwyddiannus yng Nghaerdydd roi hwb arall i'w gyrfa, a chryfhau'r achos dros weld mwy o nosweithiau bocsio proffil uchel yn cael eu cynnal yng Nghymru yn y blynyddoedd nesaf.