Bachgen 14 oed yn y llys wedi ei gyhuddo o lofruddiaeth ar ôl canfod corff merch

Lilly Blaina

Mae bachgen 14 oed wedi ymddangos yn y llys ddydd Gwener wedi’i gyhuddo o lofruddiaeth, wedi i gorff merch oedd ar goll gael ei ddarganfod yn nhref Blaenau ger Abertyleri.

Fe ymddangosodd y bachgen yn Llys Ieuenctid Casnewydd fore Gwener. Ni ellir ei enwi am resymau cyfreithiol.

Siaradodd y bachgen i gadarnhau ei enw, ei gyfeiriad, ei ddyddiad geni, a’i fod yn gallu clywed yr achos.

Dywedodd y Barnwr Sophie Toms wrtho: “Fe fyddwch chi’n gwybod eich bod wedi eich cyhuddo o’r drosedd o lofruddiaeth.

“Rydych chi’n ymddangos heddiw yn y llys ieuenctid ar gyfer eich gwrandawiad cyntaf.

“Rhaid i mi nawr anfon eich achos i Lys y Goron gan nad oes modd i mi ddelio â’r cyhuddiad hwn.

“Bydd y gwrandawiad nesaf ddydd Llun yr wythnos nesaf. Fe fyddwch chi’n ymddangos gerbron Llys y Goron Caerdydd ar 29 Mehefin.”

'Ymholiadau'n parhau'

Er nad yw'r corff wedi cael ei adnabod yn ffurfiol eto, dywedodd y llu fod teulu Lilly, merch 14 oed oedd ar goll, wedi cael gwybod am y datblygiad.

Fe gafodd Lilly ei gweld ddiwethaf ar Stryd Fawr Blaenau am tua 18:50 nos Sadwrn.

Dywedodd yr heddlu fod bachgen gwyn Prydeinig wedi’i arestio ar ôl i gorff menyw gael ei ddarganfod yn ardal Parc Duffryn o'r dref am tua 22:10 nos Lun.

Dywedodd Heddlu Gwent er nad yw’r corff wedi’i adnabod, maent yn rhyddhau enw Lilly gyda dealltwriaeth ei theulu “oherwydd y bydd yn rhan o’r achos llys ac yn fater o gofnod cyhoeddus.”

Dywedodd y Prif Arolygydd Ditectif Steven Thomas bod presenoldeb "sylweddol" yr heddlu ym Mharc Duffryn yn parhau am y tro.

"Mae ein meddyliau gyda theulu a ffrindiau Lilly yn ystod yr amser anodd hwn," meddai.

"Rydym yn deall bod llawer iawn o ddiddordeb wedi bod yn yr ymchwiliad hwn. Mae'n hanfodol bod pobl yn ystyried sut y gallai eu hiaith, yn enwedig sylwadau a wneir ar-lein, effeithio ar ein gallu i ddwyn unrhyw un a geir wedi cyflawni trosedd gerbron y llys.

"Er ein bod wedi cyrraedd y datblygiad arwyddocaol hwn yn ein hymchwiliad, mae ein hymholiadau'n parhau a byddwch yn dal i weld presenoldeb heddlu sylweddol yn yr ardal.

"Bydd archwiliadau o safleoedd yn parhau dros y dyddiau nesaf, gan gynnwys ym Mharc Duffryn, lle mae sawl cordon yn parhau yn ei le.

"Hoffwn ddiolch i drigolion lleol am eu cefnogaeth barhaus ac i'r rhai yr effeithiwyd arnynt am eu hamynedd yn ystod yr amser hwn."

Dywedodd Jenny Hopkins o Wasanaeth Erlyn y Goron (CPS): "Mae Gwasanaeth Erlyn y Goron wedi awdurdodi Heddlu Gwent i gyhuddo bachgen 14 oed o drosedd llofruddiaeth.

"Mae Gwasanaeth Erlyn y Goron yn atgoffa pawb dan sylw bod achos troseddol yn erbyn y person hwn bellach ar waith a bod ganddynt hawl i gael achos teg.

“Mae’n hynod bwysig na ddylai fod unrhyw adrodd, sylwebu na rhannu gwybodaeth ar-lein a allai ragfarnu’r achos hwn mewn unrhyw ffordd.”

Mae'r llu yn annog unrhyw un â gwybodaeth i gysylltu â nhw gan ddefnyddio'r cyfeirnod 2600194414. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.