Arestio dyn ifanc wrth ymchwilio i drywanu honedig yng Nghaerdydd

Parc Lydstep

Mae ditectifs sy’n ymchwilio i achos o drywanu honedig yng Nghaerdydd wedi arestio dyn ifanc 17 oed.

Mae’r dyn o arda Caerau yn y ddinas yn parhau yn y ddalfa ar amheuaeth o achosi niwed corfforol difrifol, bod â chyllell a chanabis yn ei feddiant gyda’r bwriad o’i gyflenwi, ac ymosod drwy guro.

Mae’r arestio yn gysylltiedig â digwyddiad ym Mharc Lydstep a arweiniodd at drywanu dau fachgen 16 a 17 oed ychydig cyn 19.00 ar ddydd Sul, 31 Mai.

Mae’r ddau ddioddefwr wedi cael eu rhyddhau o Ysbyty Athrofaol Cymru ar ôl derbyn triniaeth.

Mae’r dioddefwyr a’u teuluoedd wedi cael y wybodaeth ddiweddaraf ac mae’r ymchwiliad yn parhau.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.