Cwest yn clywed fod dyn wedi marw 'o achosion annaturiol' yn Y Bermo

Bermo

Mae cwest i farwolaeth dyn yn y môr ger traeth Y Bermo yng Ngwynedd fis diwethaf wedi clywed ei fod wedi marw o achosion annaturiol.

Bu farw Ruhul Amin Nana, 34 oed, ar 25 Mai. 

Roedd Mr Nana yn athro ac yn dod o ardal Birmingham.

Wrth agor y cwest i'w farwolaeth yng Nghaernarfon ddydd Iau, dywedodd Uwch-grwner Gogledd Orllewin Cymru, Kate Robertson, fod Mr Nana wedi ei eni yn ninas Navsari, India, ym mis Hydref 1991.

Cafodd ei farwolaeth ei chadarnhau yng ngorsaf bad achub yr RNLI yn Y Bermo am 16:55, ac fe gafodd ei adnabod yn ffurfiol gan aelod o'i deulu.

"Roedd Mr Nana yn y môr pan ddaeth yn ddiymateb. Bu farw y fuan wedyn," meddai'r crwner.

Dywedodd bod archwiliad port mortem wedi ei orchymyn i'r farwolaeth a bod achos rhesymol i amau ​​bod y farwolaeth yn un annaturiol.

Cafodd y cwest ei ohirio er mwyn i'r awdurdodau gwblhau eu hymchwiliadau.

Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r traeth yn dilyn adroddiadau bod dyn yn y dŵr ychydig ar ôl 15.00.

Er gwaethaf eu hymdrechion, bu farw Mr Nana yn y fan a'r lle.

Fe wnaeth Heddlu'r Gogledd lansio ymchwiliad llofruddiaeth yn dilyn y digwyddiad.

Cafodd dyn 24 oed o ardal Birmingham ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth, ac mae bellach wedi ei ryddhau ar fechnïaeth.

Teyrnged

Yn dilyn marwolaeth Mr Nana, fe gyhoeddodd ei aelod seneddol lleol, Ayoub Khan, deyrnged iddo gan ddweud: "Rwy'n drist iawn o glywed am farwolaeth Mr Ruhul Nana, aelod staff uchel ei barch ac athro Gwyddoniaeth eithriadol yn Academi Broadway yn fy etholaeth i, Birmingham Perry Barr.

"Gwnaeth Mr Nana effaith barhaol ar gynifer o bobl ifanc trwy ei ymroddiad, ei garedigrwydd a'i angerdd dros addysgu. 

"Bydd myfyrwyr, cydweithwyr a'r gymuned ehangach yn ei gofio'n annwyl. Mae fy meddyliau a'm gweddïau gyda'i wraig, ei blant, ei deulu, ei ffrindiau a phawb yn Ysgol Broadway yn ystod yr amser anodd hwn."

'Ymateb sylweddol'

Yn dilyn y digwyddiad, dywedodd yr Uwch-arolygydd Ditectif Chris Bell o Heddlu'r Gogledd: “Hoffwn ddiolch i bob aelod o’r cyhoedd a gynorthwyodd y dyn ar y traeth... ac i bawb sydd wedi cysylltu â ni ers hynny.

“Rydym wedi derbyn ymateb sylweddol gan y cyhoedd, sy’n hynod ddefnyddiol i’n hymholiadau.

“Rwy’n parhau i annog unrhyw un a oedd ar draeth Y Bermo ddydd Llun 25 Mai ac a welodd y digwyddiad, ac nad yw eisoes wedi siarad â’r heddlu, i gysylltu.

“Rwyf hefyd yn apelio eto at unrhyw un a oedd ar y traeth rhwng 14:00 a 16:00 a gymerodd unrhyw luniau neu fideos i’w hanfon atom cyn gynted â phosib."

Llun: Google

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.