Afon yng Ngwynedd ymysg y gorau ym Mhrydain am blanhigion prin
Mae planhigion sydd yn cynhyrchu hadau wedi eu darganfod mewn afon ger Caernarfon medd adroddiad newydd.
Yn ôl Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) dyw hyn ddim yn digwydd yn aml ym Mhrydain. Mae'r ffaith ei fod wedi digwydd yn Afon Gwyrfai yn arwydd bod y planhigion yn yr afon yn iach ac yn hunangynhaliol.
Mae'r corff sydd yn gyfrifol am ofalu am yr amgylchedd yn dweud eu bod wedi casglu'r hadau a'u rhoi i Fanc Hadau'r Mileniwm yng Ngerddi Kew yn Llundain.
Trwy wneud hyn maent yn helpu i ddiogelu'r rhywogaeth ar gyfer y dyfodol.
Mae Afon Gwyrfai a Llyn Cwellyn yn Ardal Cadwraeth Arbennig, sy'n golygu bod dyletswydd i ddiogelu'r ardal oherwydd y cynefinoedd neu rywogaethau planhigion prin sydd yno.
Mae'r adroddiad gan CNC hefyd yn nodi bod lyriad-y-dŵr arnofiol wedi eu gweld yn yr afon.
Mae'r planhigion blodeuog yn rhywogaeth brin a gwarchodedig o bwysigrwydd rhyngwladol meddai'r corff.
Fe wnaeth y rhai oedd yn asesu'r afon ddarganfod nifer o blanhigion gwahanol yn yr afon.
'Canlyniad cryf'
Ond roedd yna arwyddion cynnar mewn un ardal yn yr afon o lefelau uwch o algâu ac mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn dweud y byddan nhw yn ymchwilio ymhellach. Maent hefyd yn dweud eu bod yn gweithio i wella ansawdd dŵr yn y Gwyrfai.
Dywedodd Francesca Sanchez, cyd-awdur yr adroddiad a Chynghorydd Arbenigol CNC ar gyfer Cynefinoedd a Rhywogaethau Dŵr Croyw:
“Mae hwn yn ganlyniad cryf. Mae’r canfyddiadau’n dangos bod Afon Gwyrfai yn dal i fod yn un o’r enghreifftiau gorau yn y DU ar gyfer y math hwn o gymuned o blanhigion.
“Maen nhw’n chwarae rhan hanfodol yn cynnal iechyd yr afon drwy ddarparu cynefin hanfodol i bysgod, infertebratau a mathau eraill o fywyd gwyllt, sy’n helpu i gynnal bioamrywiaeth.
“Maen nhw hefyd yn cyfrannu at wella ansawdd y dŵr drwy amsugno maethynnau, dal gwaddodion a sefydlogi gwelyau’r afon," meddai.
Llun: Cyfoeth Naturiol Cymru
