Pwy yw Andy Burnham, y prif weinidog posib nesaf?

Andy Burnham

Gyda Keir Starmer wedi cyhoeddi ei fod yn ymddiswyddo, mae disgwyl i Andy Burnham, AS newydd dros Makerfield, lansio ymgyrch i ddod yn arweinydd nesaf y Blaid Lafur.

Cyn-faer Manceinion Fwyaf yw’r ffefryn i olynu Starmer. Os bydd yn ennill arweinyddiaeth y blaid, y disgwyl yw y bydd yn dod yn Brif Weinidog nesaf y Deyrnas Unedig.

Mae disgwyl i Burnham dyngu llw yn San Steffan ddydd Llun.

Ond pwy yw Andy Burnham?

Cafodd Andrew Murray Burnham ei eni yn Aintree, ger Lerpwl, ar 7 Ionawr 1970.

Cafodd ei fagu yng Nghulcheth, Swydd Gaer, cyn astudio Saesneg ym Mhrifysgol Caergrawnt.

Cyn iddo gael ei ethol i Dŷ’r Cyffredin, roedd yn gweithio fel ymchwilydd i’r AS Llafur Tessa Jowell, i Gydffederasiwn y GIG ac i dasglu pêl-droed y llywodraeth.

Cafodd ei ethol yn AS dros Leigh am y tro cyntaf yn 2001, gan gynrychioli’r etholaeth am 16 mlynedd.

Daeth Burnham yn aelod o gabinet Gordon Brown pan oedd Llafur mewn llywodraeth.

Rhwng 2007 a 2008 roedd yn Brif Ysgrifennydd y Trysorlys, cyn dod yn Ysgrifennydd Diwylliant ac yna’n Ysgrifennydd Iechyd.

Yn ddiweddarach, daeth yn Ysgrifennydd Iechyd yr Wrthblaid ac yn Ysgrifennydd Cartref yr Wrthblaid.

Nid dyma'r tro cyntaf iddo geisio dod yn arweinydd y Blaid Lafur.

Fe safodd yn etholiad arweinyddiaeth y blaid yn 2010, ond daeth yn bedwerydd yn y gystadleuaeth a gafodd ei hennill gan Ed Miliband.

Safodd eto yn 2015, gan ddod yn ail i Jeremy Corbyn.

Cafodd Corbyn bron i 60% o’r bleidlais, o’i gymharu â 19% i Burnham.

'Brenin y Gogledd'

Gadawodd Burnham San Steffan yn 2017 er mwyn dod yn Faer cyntaf Manceinion Fwyaf.

Cafodd ei ailethol yn 2021 ac eto yn 2024, pan enillodd fwy na 63% o’r bleidlais.

Yn ystod ei gyfnod fel maer, fe ddatblygodd y Bee Network, sef rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus integredig Manceinion Fwyaf.

Daeth gwasanaethau bysiau’r ardal yn ôl dan reolaeth leol, gyda’r awdurdod yn penderfynu ar lwybrau, prisiau a safonau yn hytrach na chwmnïau preifat.

Fe gododd ei broffil cenedlaethol yn sylweddol yn ystod pandemig Covid-19.

Fe wnaeth o wrthwynebu cynlluniau cyfyngiadau Llywodraeth Boris Johnson. Roedd o'n dweud bod y cyfyngiadau yn llymach ar Fanceinion Fwyaf a hynny heb ddarparu digon o gymorth ariannol i weithwyr a busnesau. 

Yn sgil ei wrthwynebiad cyhoeddus i’r llywodraeth, cafodd ei lysenwi’n “Frenin y Gogledd”.

Mae hefyd wedi bod yn gysylltiedig yn agos â’r ymgyrch dros gyfiawnder i deuluoedd trychineb Hillsborough.

Fel Ysgrifennydd Diwylliant yn 2009, fe wnaeth o bwyso am ddatgelu dogfennau oedd yn ymwneud â’r drychineb, gan helpu i arwain at sefydlu Panel Annibynnol Hillsborough.

Dychwelyd i San Steffan

Daeth ei gyfnod fel Maer Manceinion Fwyaf i ben ym mis Mehefin 2026, ar ôl iddo ennill isetholiad Makerfield.

Cafodd yr isetholiad ei gynnal ar ôl i’r AS Llafur Josh Simons ymddiswyddo, gan ddweud ei fod am roi cyfle i Burnham ddychwelyd i San Steffan.

Enillodd Burnham 24,927 o bleidleisiau, sef 54.8% o’r bleidlais, a mwyafrif o 9,231 dros ymgeisydd Reform UK.

Mae Burnham yn galw ei weledigaeth economaidd yn “Manchesterism”, ac mae wedi ei disgrifio fel math o sosialaeth sy’n gyfeillgar i fusnesau.

Mae’n dadlau dros symud mwy o rym a chyllid o San Steffan i lywodraethau lleol ac ardaloedd y tu allan i Lundain.

Mae hefyd wedi cefnogi mwy o reolaeth gyhoeddus dros drafnidiaeth a gwasanaethau hanfodol, adeiladu mwy o dai cymdeithasol a buddsoddi mewn diwydiant.

Mae wedi dweud y byddai’n cadw at reolau cyllidol y llywodraeth ac addewid maniffesto Llafur i beidio â chodi treth incwm, Yswiriant Gwladol na TAW ar bobl sy’n gweithio.

Ond mae ei feirniaid wedi cwestiynu sut y byddai’n talu am ei gynlluniau ac a fyddai modd ailadrodd ei lwyddiant ym Manceinion Fwyaf ar draws y Deyrnas Unedig.

Ni fydd Burnham yn dod yn arweinydd Llafur nac yn Brif Weinidog yn awtomatig.

Er mwyn cyrraedd y papur pleidleisio, bydd angen iddo gael cefnogaeth o leiaf 20% o ASau Llafur.

Byddai’n rhaid iddo wedyn sicrhau’r enwebiadau angenrheidiol gan bleidiau Llafur etholaethol neu sefydliadau sy’n gysylltiedig â’r blaid.

Bydd aelodau Llafur wedyn yn pleidleisio i ddewis yr arweinydd newydd.

Pe bai Burnham yn ennill, byddai disgwyl i’r Brenin ei benodi’n Brif Weinidog, gan fod gan y Blaid Lafur fwyafrif yn Nhŷ’r Cyffredin.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.