'Gorfod mynd yn breifat i gael gofal' medd menyw sy’n byw ag epilepsi
'Gorfod mynd yn breifat i gael gofal' medd menyw sy’n byw ag epilepsi
Mae menyw 24 oed o Geredigion yn dweud ei bod wedi “gorfod mynd yn breifat” i gael y gofal oedd ei angen i drin ei epilepsi yn effeithiol.
Mae Kayleigh Roach o Fronant yn dweud nad yw Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi “rhoi’r gefnogaeth fi angen”, a “na ddylen i wedi gorfod talu".
Cafodd Kayleigh ddiagnosis o epilepsi yn 13 oed, ac ers hynny, mae hi wedi gorfod newid meddyginiaeth sawl gwaith i geisio ymdopi â’r cyflwr.
“Pob seizure fi’n cal fi mor ddiolchgar fi gallu codi lan a dal ’da bywyd fi,” meddai wrth siarad â rhaglen Y Byd ar Bedwar.
“Fi di torri gyd o dannedd fi wrth gwympo mewn seizure, ca’l injuries ar pen sy’n gallu bod yn ddifrifol, torri braich a gwlychu gwely.
"Pethe bach ond ma’ nhw’n gallu bod yn embarrassing.”
Mae hi’n un o’r 36,000 o bobl sy’n byw ag epilepsi yng Nghymru, yn ôl elusen Epilepsy Action.
Gyda’r trawiadau yn gwaethygu dros y blynyddoedd diwethaf, roedd Kayleigh a’i theulu yn awyddus iddi geisio cwrs newydd o dabledi. Ond mae’n dweud nad oedd ei thîm iechyd yn fodlon rhoi’r feddyginiaeth iddi.
“Dwi’n teimlo fod hynny achos y gost,” meddai. “Dwi’n lwcus ’mod i wedi gallu fforddio mynd yn breifat, ond dylen i ddim fod wedi gorfod gwneud hynny.”
Ym mis Rhagfyr 2025, aeth i weld niwrolegydd preifat yn Llundain a gytunodd y dylai Kayleigh fod ar y tabledi ychwanegol. Ar ôl hyn, cytunodd Bwrdd Iechyd Hywel Dda, ac mae Kayleigh’n dweud bod ei chyflwr yn gwella’n raddol.
“Ma pobl yn bywyd fi yn checko lan arna i trwy’r amser. Fi just moen ca’l bywyd lle ma pawb ddim yn becso amdano fi," meddai.
“Ma angen i’r bwrdd iechyd glywed pa mor anodd ’ma nhw’n neud e i bobl sydd ag epilepsi. Ma angen newid.”
Dywedodd llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Ni allwn wneud sylwadau ar gleifion unigol na’u gofal, gan y byddai gwneud hynny’n torri cyfrinachedd cleifion.
“Rydym bob amser yn ceisio sicrhau bod cleifion yn ein gofal yn teimlo eu bod yn cael eu gwrando a’u grymuso i ofyn cwestiynau am y ffordd rydym yn trin eu cyflwr a sut y gallai hyn effeithio ar eu cynlluniau ar gyfer y dyfodol.
“Byddem yn annog unrhyw glaf neu deulu sydd â phryderon am unrhyw wasanaeth a ddarparwn i gysylltu â ni’n uniongyrchol fel y gellir trafod y pryderon hynny a mynd i’r afael â nhw’n briodol.”
Fe fydd y cyfweliad llawn ar rhaglen Y Byd ar Bedwar ar ddydd Llun 22 Mehefin, ar S4C, Youtube, BBC iPlayer a S4C Clic.