Carcharu dyn oriau ar ôl cael ei ddal yn gyrru dros 100mya ar yr A55
Cafodd dyn oedd wedi ei wahardd rhag gyrru ei garcharu oriau'n unig ar ôl cael ei ddal yn teithio dros 100mya ar ffordd yr A55 yn y gogledd.
Fe wnaeth Ashley William Trevorrow, 29 oed o Fae Colwyn, ymddangos yn Llys Ynadon Llandudno ddydd Iau ar ôl cael ei stopio gan Heddlu'r Gogledd ychydig oriau cyn hynny.
Roedd Trevorrow wedi ei weld yn gyrru dros 100mya ac fe gafodd ei stopio yn Llanddulas, Sir Conwy.
Roedd wedi ei wahardd rhag gyrru yn flaenorol tan 2030.
Cafodd Trevorrow ei arestio a'i gyhuddo o yrru pan oedd wedi ei wahardd, gyrru heb yswiriant a theithio dros y terfyn cyflymder o 70mya.
Cafodd ei gadw yn y ddalfa tan y gwrandawiad llys nesaf oedd yn digwydd bod y prynhawn hwnnw.
Fe gafodd ei wahardd rhag gyrru am 63 mis ar ben ei gyfnod gwaharddiad presennol. Cafodd hefyd ei ddedfrydu i 16 wythnos yn y carchar yn ogystal â chostau i'r llys.
"Ni fyddwn yn goddef gyrru peryglus ar ein ffyrdd; byddwn yn parhau i dargedu’n weithredol y rhai sy’n anwybyddu’r gyfraith ac yn peri risg i’r cyhoedd" meddai datganiad gan yr heddlu.
