Cwest: Tad i dri wedi marw ar ôl cael ei drydanu wrth gamu allan o lori
Rhybudd: Gall rhai manylion yn yr erthygl hon beri gofid.
Mae cwest wedi clywed bod tad i dri o ogledd Cymru wedi marw ar ôl cael ei drydanu wrth gamu allan o'i lori, tra bod ei fab yn ei arddegau yn eistedd yn y cab.
Bu farw Andrew Lloyd, 56 oed, o Lanelian ger Bae Colwyn, ar 1 Mai 2025, ar ôl i fraich ei lori godi ddod i gysylltiad â chebl trydan uwchben.
Fe glywodd y cwest yn Rhuthun ddydd Mawrth fod y cebl yn cario 11,000 folt o drydan.
Roedd Mr Lloyd, oedd yn cael ei adnabod fel Andy, yn danfon llwyth o gerrig mâl i fferm Tan-y-Dderwen ym Metws-yn-Rhos, lle'r oedd gweithwyr yn adeiladu sied.
Yn ôl tystiolaeth tri gweithiwr oedd ar y safle, fe wnaeth Mr Lloyd yrru i mewn i gae cyn gyrru ei lori am yn ôl i'r man lle'r oedd y deunydd i gael ei ddadlwytho.
Doedd y gweithwyr, Hari Evans, Eryl Griffiths a Rhys Griffiths, ddim yn disgwyl i'r lori gyrraedd, ac nid oedden nhw'n adnabod Mr Lloyd.
Fe wnaeth Mr Evans geisio rhoi arwydd iddo stopio ar ôl gweld braich y lori yn cyffwrdd â'r cebl trydan.
Roedd Mr Lloyd wedi camu allan o'r cab ac yn sefyll ar y gris metel pan gafodd ei drydanu, cyn cwympo i'r llawr.
Fe ddywedodd Mr Evans wrth yr heddlu ei fod wedi gweld fflamau'n dod o esgidiau Mr Lloyd ac o deiars cefn y lori.
Fe wnaeth Eryl Griffiths roi CPR iddo nes i barafeddygon gyrraedd, tra bod Rhys Griffiths yn cysuro ei fab oedd yn parhau yn y cab.
Roedd Mr Lloyd, oedd yn rhedeg ei gwmni ei hun, i fod i briodi ei bartner hirdymor, Hayley, yn ddiweddarach y mis hwnnw.
Fe ddywedodd y patholegydd Dr Mark Atkinson fod archwiliad post-mortem wedi dangos llosgiadau difrifol i draed Mr Lloyd, ac mai cael ei drydanu oedd achos ei farwolaeth.
Fe ddaeth John Gittins, Uwch Grwner Dwyrain a Chanol Gogledd Cymru, i'r casgliad mai marwolaeth ddamweiniol oedd hon.