Cwest: Merch 14 oed o ardal Abertyleri 'wedi ei thrywanu sawl gwaith'
Mae agoriad cwest wedi clywed bod merch 14 oed o dref Blaenau ger Abertyleri yn debygol o fod wedi marw ar ôl cael ei thrywanu sawl gwaith.
Fe gafwyd hyd i gorff Lilly Jones yn dilyn adroddiadau ei bod ar goll o'i chartref.
Mae bachgen 14 oed wedi ei gyhuddo o'i llofruddio, ac fe fydd yn ymddangos yn y llys yn ddiweddarach eleni.
Fe wnaeth y diffynnydd, nad oes modd ei enwi o achos ei oedran, ymddangos yn Llys y Goron Caerdydd fore dydd Llun diwethaf wedi'i gyhuddo o lofruddio Lilly.
Fe glywodd agoriad cwest yn Llys Crwner Gwent ddydd Llun fod yr heddlu wedi cael gwybod bod Lilly ar goll gyda’r nos ar 20 Mehefin.
Fe gafodd ei darganfod ychydig ar ôl 22.00 ar 22 Mehefin ym Mharc Dyffryn ger y clwb bowlio, gydag anafiadau i’w brest a’i gwddf.
Dywedodd y prif grwner Caroline Saunders fod archwiliad post-mortem wedi cael ei gynnal gan Dr Richard Jones, a’i fod wedi darparu achos marwolaeth dros dro.
Dywedodd y crwner mai “clwyfau trywanu lluosog i’r gwddf a’r torso” oedd y casgliad yr oedd hi wedi ei dderbyn ganddo.
“Bydd y mater yn cael ei ohirio er mwyn cynnal ymholiadau pellach,” meddai.
Fe wnaeth y crwner bennu dyddiad dros dro ar gyfer y cwest ar 6 Ebrill 2027.
