Cwest yn clywed bod dyn busnes o Fôn wedi marw o anafiadau niferus mewn gwrthdrawiad

Ffordd A5025  - Llanfachraeth

Mae cwest wedi clywed bod dyn busnes o Fôn, a fu farw mewn gwrthdrawiad rhwng beic modur a char, wedi marw o ganlyniad i 'anafiadau niferus'.

Bu farw Sean Chamberlain, 60 oed, o Gemlyn, ger Cemaes, mewn gwrthdrawiad ar ddydd Mawrth 12 Mai.

Dywedodd uwch grwner Gogledd Orllewin Cymru, Kate Robertson, mewn gwrandawiad byr yng Nghaernarfon ddydd Iau mai canfyddiadau cychwynnol achos ei farwolaeth oedd anafiadau niferus.

Roedd Mr Chamberlain yn gyfarwyddwr ar sawl busnes ar yr ynys, gan gynnwys Garej Brookside a Gwesty Gadlys yng Nghemaes, a Central Garage yn Amlwch.

Dywedodd Ms Robertson: “Hoffwn gymryd y cyfle i rannu fy nghydymdeimladau dwysaf gyda'r rhai sydd yn bresennol yn y llys heddiw yn ogystal â ffrindiau a theulu Mr Chamberlain a’r gymuned yn ehangach.”

Roedd Mr Chamberlain yn gyrru beic modur ar ffordd yr A5025 o Fae Cemaes cyn iddo fod mewn gwrthdrawiad â char cyn y ddamwain.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i’r lleoliad ond bu farw yn y fan a’r lle.

Cafodd un dyn ei arestio yn dilyn y digwyddiad.

Cafodd y cwest ei ohirio er mwyn caniatáu i'r heddlu ymchwilio ymhellach.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.