Rhybudd i bobl gadw draw o dirlithriad arall ym Mhen Llŷn

Tirlithriad ger Aberdaron ym Mhen Llŷn
Tirlithriad ger Aberdaron ym Mhen Llŷn

Mae Cyngor Gwynedd wedi rhybuddio pobl i gadw draw o lwybr cyhoeddus sydd wedi ei gau oherwydd tirlithriad ger Aberdaron ym Mhen Llŷn ddydd Iau.

Dywedodd y cyngor bod rhan o Lwybr Arfordir Cymru wedi cau "dros dro" rhwng Porth Meudwy a Phorth Cloch yn Uwchmynydd yn dilyn y tirlithriad.

Ychwanegodd y cyngor y bydd swyddogion Llwybr yr Arfordir yn asesu’r safle ac yn darparu manylion am lwybr amgen maes o law.

Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd: "Mae’r penderfyniad wedi ei wneud i ddiogelu iechyd y cyhoedd - mae’r rhan yma o’r llwybr yn beryglus ac rydym yn gofyn yn garedig i’r cyhoedd gadw’n glir o’r ardal.

"Bydd tîm Llwybr yr Arfordir yn asesu’r safle ac yn rhannu diweddariad maes o law am lwybr amgen."

Daw'r tirlithriad diweddaraf ym Mhen Llŷn ddiwrnod yn unig ar ôl i Gyngor Gwynedd ddweud iddyn nhw wynebu’r “flwyddyn waethaf o ran tirlithriadau” eleni a bod hynny yn rhoi straen ar adnoddau a chyllid yr awdurdod.  

Yn ardal Nefyn mae sawl tirlithriad wedi digwydd eleni gyda rhannau o’r llwybr cyhoeddus wedi gorfod cau yn ardal Porthdinllaen yn fwy diweddar hefyd. 

Yn ôl Llywodraeth Cymru maen nhw’n cydnabod yr angen i addasu a newid er mwyn ymateb i sgil effeithiau newid hinsawdd. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.