‘Croeso gewch ym mro'r Wes Wes': Busnesau’r Garreg Las yn barod am wythnos yr Eisteddfod

‘Croeso gewch ym mro'r Wes Wes': Busnesau’r Garreg Las yn barod am wythnos yr Eisteddfod

Mae ardal Gogledd Sir Benfro yn paratoi i lwyfannu Eisteddfod y Garreg y Las, y tro cyntaf mae tair sir wedi cydweithio i gyd-drefnu'r Brifwyl.

Mae Sir Benfro gyfan, de Ceredigion a Gorllewin Sir Gaerfyrddin i gyd wedi bod yn rhan o'r ymdrechion i godi arian gyda'r gronfa leol eisoes wedi codi dros £530,000, er mai'r nod ariannol gwreiddiol oedd £400,000. 

Fe fydd y Brifwyl hefyd yn dathlu 850 mlynedd ers i'r Eisteddfod gyntaf gael ei chynnal yng Nghastell Aberteifi gerllaw ym 1176 dan nawdd yr Arglwydd Rhys.

Mae'r Eisteddfod yn cael ei chynnal yn Llantwd yng Ngogledd Sir Benfro sydd rhyw bedair milltir o gartref yr Eisteddfod gyntaf. 

Erbyn hyn, mae Castell Aberteifi yn lleoliad ar gyfer digwyddiadau, yn fwyty ac yn llety gwyliau. 

Image
harddu
Mae ardal yr Eisteddfod wedi cael ei harddu ar drothwy'r Brifwyl. 

Mae arddangosfa am hanes yr Eisteddfod i'w gweld yn y Castell, ac mae Cadair Eisteddfod 2026, o waith Tomos Lewis, wedi cael ei harddangos yno cyn yr Eisteddfod. 

Meirion Davies yw Cyfarwyddwr Castell Aberteifi.

"Yn elfennol, mae'r Castell wrth wraidd cysyniad yr Eisteddfod achos taw yn fan hyn ym 1176 cychwynodd y cyfan gyda'r Arglwydd Rhys yn cynnal yr Eisteddfod gyntaf," meddai.

"Yn bersonol, i fi, fel rhywun sydd yn dod o Flaenffos yn wreiddiol, mae gweld y Brifwyl yn dod nôl i ardal y Garreg Las yn ffantastig, ac wrth gwrs, mae'r ardal gyfan o fewn 20 milltir i'r maes yn Llantwd yn mynd i fod ynghlwm â'r peth, i ddathlu'r 850 penblwydd."

Image
Meirion Davies Cyfarwyddwr Castell Aberteifi
Meirion Davies Cyfarwyddwr Castell Aberteifi

Yn ôl Meirion, mae cynnal y Brifwyl yn y dref yn hwb enfawr i Aberteifi.

"Mae fel petasai'r golau wedi dod ar Aberteifi a'r Castell a da ni wedi elwa yn barod o'r diddordeb," meddai. 

"Mae nifer o griwiau ffilm wedi bod yma ac fe fydd gwaddol y diddordeb yna yn aros yng ngwres cysgod yr Eisteddfod. 

"Byddwn ni yn dathlu yr 850 mlwyddiant lan tan ddydd Nadolig, oherwydd ar ddydd Nadolig y cynhaliwyd yr un gyntaf. 

"Mae'r llety yn llawn ers dwy flynedd. Ni'n gallu cysgu 28 o bobl. Enw'r bwyty yw 1176, ac mae James a'r criw yn fan'na yn edrych 'mlaen at groesawu pawb."

Fe fydd dwy arddangosfa yn cael eu cynnal yn y Castell yn ystod mis Awst sef Eiconau Cymru, darluniau o sêr Cymreig gan Malcolm Gwyon, artist o'r dref. Fe fydd ail arddangosfa yn rhoi cyfle i bobl ail fyw pafiliwn Eisteddfod Aberteifi ym 1976. 

Image
meleri
Meleri Ennis, Rheolwraig Parc Gwyliau Llwyngwair

Yn Nhrefdraeth, rhyw naw milltir o Lantwd, fe fydd Parc Gwyliau Llwyngwair hefyd dan ei sang ar gyfer yr Eisteddfod. Mae Meleri Ennis yn rhedeg y safle gyda'i theulu.

"Ni'n disgwyl i fod yn brysur iawn yn ystod wythnos yr Eisteddfod. Mae'r llety i gyd yn llawn - y llety hunarlwyol yn llawn, y maes carafanau a'r pebyll yn fishi iawn," meddai. 

"Ni'n gobeithio y bydd hynny yn cael effaith ar bobl yn gwario arian yn y bar a'r bwyd a'r gweithgareddau sydd gyda ni yma."

"Dw i yn siwr bod lot o'r gwesteion i Lwyngwair yn bwriadu treulio amser yn y 'Steddfod, ond ddim bob dydd, a gobeithio wnewn nhw gefnogi busnesau lleol ardal y Garreg Las, y busnesau annibynnol a'r caffis yn Nhrefdraeth. 

"Dw i yn credu bydd e'n hwb economaidd mawr iawn i'r ardal. Gobeithio bydd pobl yn cael profiad positif yn ystod wythnos yr Eisteddfod a gobeithio ddewn nhw nôl yn y dyfodol agos i weld mwy. 

"Mae yna fwrlwm mawr ers blwyddyn i ddeunaw mis. Mae'r cymunedau wedi dod at eu gilydd."

Fe fydd gigs Cymdeithas yr Iaith yn cael eu cynnal yng Nghlwb Rygbi Crymych, rhyw bum milltir o faes yr Eisteddfod. 

Image
Owain Richards, Stiward Clwb Rygbi Crymych
Owain Richards, Stiward Clwb Rygbi Crymych

Fe fydd artisiaid fel Cowbois Rhos Botwnnog, Jess, Tecwyn Ifan, Bwncath a Lowri Evans yn perfformio, a bws ar gael i gludo pobl nol i'r maes carafannau ar ddiwedd y nos. 

Yn ôl Owain Richards, Stiward Clwb Rygbi Crymych, fe fydd y Brifwyl yn hwb mawr i fusnesau'r pentref.

"Mae fe'n massive i ni fel Clwb ac fel pentref i gael croesawu miloedd o bobl lawr i'r ardal. Mae'n gret i ni gael dangos beth mae Crymych ambwyti a ni'n edrych 'mlaen at gael y cyfle i gael digwyddiadau 'ma," meddai.

"Mae'n amser tawel o'r flwyddyn heb rygbi. Mae lot o drefnu staff a chwrw ac mae'n job i wybod faint o docynnau ni wedi gwerthu. Fi wedi rhoi warning i'r brewery falle bydd eisiau mwy os byddwn ni yn dechrau rhedeg mas ! Gei di ddim lle gwell na Chrymych adeg Steddfod."

Fe osodwyd targed i'r gronfa leol o £400,000 gan yr Eisteddfod Genedlaethol, ond mae pobl leol bellach wedi codi dros £530,000.

Image
Eurfyl
Eurfyl Lewis, Is Gadeirydd y Gronfa Leol.

Un sydd wedi bod wrth galon y gwaith o godi arian i Eisteddfod y Garreg Las ydy Eurfyl Lewis o Langlydwen, fydd yn cael ei urddo i'r Orsedd eleni. Fe yw Is Gadeirydd y Gronfa Leol.

"Dw i wedi sefydlu 26 o bwyllgorau mas o 41, a dw i wedi mynychu 70 o weithgareddau. Dw i wedi cael modd i fyw dros y flwyddyn a hanner diwethaf. Mae'n rhoi chiwstrelliad o egni a hyder i gymunedau." meddai.

"Mae digwyddiadau wedi eu cynnal dros Sir Benfro gyfan, De Ceredigion a Gorllewin Sir Gar.

 "Mae'r brwydfrydedd a'r bwrlwm wedi bod yn hollol heintus ac mae pobl wedi bwrw ati gydag afiaith ac asbri rhyfeddol. Mae'n bwysig er mwyn tynnu cymunedau at ei gilydd. 

"Mae effaith Covid gyda ni o hyd i raddau, ond ymhobman dw i wedi gweld cynulleidfa yn dod mas ac yn cefnogi pob math o weithgareddau.

"Fe gafon ni nod ariannol eitha heriol gan y Steddfod o £400,000. Y newyddion da yw erbyn hyn, ni wedi codi £530,000." 

Image
a wes heddwch.jpg
A Wes Heddwch?

Mae hynny yn chwalu'r record flaenorol a sefydlwyd gan Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd yn 2023 o £509,000.

Yn ôl Eurfyl Lewis, mae am weld y "gweithgareddau yn parhau" ar ôl yr Eisteddfod.

"Mae'n galondid i weld siaradwyr newydd yn ymuno mewn. Mae cyfrifoldeb arnom ni i annog siaradwyr newydd i ymuno mewn â'r gweithgareddau," meddai.

"Dw i yn teimlo yn freintiedig iawn fy mod i wedi cael fy ngeni ac yn byw mewn ardal mor gefnogol. Mae hi yn gymuned arbennig. 

"Mae cwpled Ceri Wyn yn dweud 'A wes whant dod i Lantwd i wyl pob gwyl ? Wes glei, Gwd !' Galla i ychwanegu cwpled fy hun i hynny. Dewch yn agos, dewch yn nes. Croeso gewch ym mro'r Wes Wes."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.