Crasfa arall i Gymru wrth i Ffrainc ennill 12-54 yn y Chwe Gwlad
Roedd crasfa arall i Gymru yn Stadiwm Principality wrth i Ffrainc eu curo 12–54 ddydd Sul.
Dyma’r sgôr fwyaf erioed i Ffrainc yn erbyn Cymru, gan ragori ar y 51 a sgoriodd nhw yn Wembley ym 1998.
Roedd bylchau amlwg yn nhorf Stadiwm y Principality, ac ni wnaeth Cymru gynnig llawer i annog eu cefnogwyr i droi i fyny wythnos nesaf yn erbyn yr Alban chwaith.
Roedd 57,744 yn y dorf, y nifer isaf erioed yng Nghaerdydd yn y Chwe Gwlad.
Roedd yn gêm hunllefus i Gymru o’r cychwyn cyntaf wrth i Ffrainc sgorio o fewn munud a hanner.
Llithrodd yr asgellwr Théo Attissogbe drwy’r bwlch cyn pasio’r bêl i’r blaenasgellwr Charles Ollivon, ac yna i’r canolwr Émilien Gailleton, a aeth o dan y pyst.
Daeth ail gais Ffrainc wyth munud yn ddiweddarach wrth i’r maswr Ffrainc, Matthieu Jalibert, gicio’r bêl i afael yr asgellwr Louis Bielle-Biarrey. Methodd Thomas Ramos y gic dros yr ystlys.
Pedwar munud yn unig yn ddiweddarach fe sgoriodd y canolwr Fabien Brau-Boirie ar ei gap cyntaf, ar ôl bylchiad gan Jalibert. Wedi 15 munud yn unig roedd Ffrainc 19 pwynt i ddim ar y blaen.
Roedd llygedyn o obaith i Gymru wrth i’r prop Rhys Carre groesi o agos ar ôl i Gymru ennill cic gosb fodfeddi o’r llinell gais.
Ond fe roddodd Cymru eu hunain yn syth yn ôl dan bwysau drwy fethu â chasglu’r gic ail-ddechrau. Tarodd Ffrainc y bêl ymlaen, gan adael i Gymru glirio.
Roedd yn ymddangos bod yr asgellwr Attissogbe wedi sicrhau’r pwynt bonws i Ffrainc ar ôl 30 munud, ond daeth i’r amlwg ei fod yn camsefyll ar ôl casglu cic gan y mewnwr Antoine Dupont.
Roedd 20 munud olaf yr hanner gyntaf yn ymddangos yn fwy cadarnhaol i Gymru wrth iddyn nhw roi trefn ar eu hamddiffyn a llwyddo i gadw Ffrainc ar drai.
Ond daeth cais arall i Ffrainc ar drothwy hanner amser wrth i glo Cymru, Adam Beard, geisio cicio’r bêl drwy’r amddiffyn.
Bownsiodd y bêl yn ôl a chafodd ei chasglu gan Jalibert, a sgoriodd dan y pyst.
Y sgôr ar yr hanner oedd 7–27.
Hanner amser
Ar ôl dwylo chwim yr hanner cyntaf fe ddechreuodd yr ail hanner gydag arddangosiad o rym blaenwyr Ffrainc wrth i’r bachwr Julien Marchand yrru drosodd ar ei 50fed cap.
Roedd cyfnod da o bwysau gan Gymru ar Ffrainc, ond torrodd Louis Bielle-Biarrey i lawr yr asgell chwith a rhoi’r bêl yn nwylo ei gyd-asgellwr Théo Attissogbe.
Daeth ail gais i Attissogbe yn fuan wedi cic ar draws y cae gan Dupont.
Fe sicrhaodd Ffrainc dros hanner cant o bwyntiau gyda sgôr arall gan Charles Ollivon, a ddaeth bron yn syth ar ôl ail-ddechrau’r chwarae, wrth i Baptiste Serin – a oedd newydd ddod ymlaen fel eilydd yn lle Dupont – dorri drwy’r amddiffyn.
Roedd cais gyrsur i Gymru ar ddiwedd y gêm wrth i ganolwr Cymru, Mason Grady sgorio wedi pas gan Louis Rees-Zammit.

