Y corff sy'n edrych ar gangiau cam-drin plant i gynnal ymchwiliad yng Nghymru
Mae’r ymchwiliad annibynnol i gangiau sy’n camfanteisio ar blant ('grooming gangs') wedi cyhoeddi y bydd yn cynnal ymchwiliad yng Nghymru.
Mewn datganiad ddydd Mercher, dywedodd yr Ymchwiliad y bydd yn cynnal gwaith yng Nghymru ac ymchwiliad ardal lleol yn Birmingham.
"Bydd yr ymchwiliadau hyn yn helpu'r Ymchwiliad i ddeall beth ddigwyddodd, pam na chafodd plant eu hadnabod a'u hamddiffyn, sut ymatebodd sefydliadau, a pha wersi y mae'n rhaid eu dysgu i atal cam-drin a niwed yn y dyfodol", meddai'r datganiad.
"Bydd yr ymchwiliad yng Nghymru yn archwilio ymatebion diogelu ac amlasiantaeth, gweithrediad trefniadau datganoledig, a gweithio trawsffiniol rhwng sefydliadau yng Nghymru a Lloegr".
Cafodd yr Ymchwiliad Annibynnol statudol ei sefydlu i fynd i'r afael â "methiannau systemig yn y ffordd yr ymatebodd sefydliadau i gamfanteisio a chamdriniaeth rywiol ar blant gan gangiau... mater sydd wedi achosi niwed difrifol a pharhaol i ddioddefwyr a goroeswyr".
Daeth yr Ymchwiliad i fodolaeth yn dilyn argymhelliad o Archwiliad Cenedlaethol y Farwnes Louise Casey ar Gamfanteisio a Chamdriniaeth Rywiol ar Blant gan Grwpiau, a gyhoeddwyd ym mis Mehefin 2025.
Mae cyn-gomisiynydd plant Lloegr, y Farwnes Anne Longfield, yn arwain yr ymchwiliad tair blynedd gwerth £65 miliwn.
Mae gan yr ymchwiliad y grym cyfreithiol i orfodi tystion i roi tystiolaeth ac i alw ar sefydliadau i drosglwyddo dogfennau.
Dywedodd y bydd yr ymchwiliad yn “dilyn y dystiolaeth ble bynnag y mae’n arwain”.
Dadlau gwleidyddol
Mae cynnal ymchwiliad yng Nghymru wedi bod yn destun dadlau gwleidyddol dros yr wythnosau a'r misoedd diwethaf.
Yn y Senedd, fe wrthododd Plaid Cymru a chefnogi cynnig gan Llŷr Powell o Reform UK ar 16 Medi oedd yn galw ar Lywodraeth y DU i sicrhau bod Cymru'n dod yn rhan o ymchwiliad penodol i'r gangiau sydd yn camfanteisio ar unigolion at eu dibenion eu hunain.
Gwrthododd y blaid hefyd a chefnogi diwygiad yn y cynnig gan y Ceidwadwyr Cymreig oedd yn galw am ymchwiliad statudol penodol i Gymru.
Yn y pen draw fe basiwyd cynnig diwygiedig gan Blaid Cymru oedd yn nodi bod Cymru eisoes yn dod o dan yr Ymchwiliad Annibynnol ehangach ar lefel y DU i gangiau sy'n meithrin perthnasoedd camfanteisiol gyda phlant.
Llun: PA