Conwy: Ysgolion ar gau wrth i’r gwasanaethau brys barhau i frwydro tân gwyllt

Penmaenmawr

Mae ysgolion ar gau yn Sir Conwy wrth i ymdrechion i ddiffodd tân gwyllt barhau.

Cafodd digwyddiad mawr ei ddatgan gan y Gwasanaeth Tân ac Achub ddydd Sul wrth i dân ar raddfa fawr ymledu yn ardal Bwlch Sychnant ar Fynydd Conwy.

Roedd yn rhaid i rai trigolion yn ardal Capelulo, Dwygyfylchi a Phenmaenmawr adael eu cartrefi.

Cafodd canolfan orffwys hefyd ei sefydlu yng Nghanolfan Busnes Conwy, yng Nghyffordd Llandudno.

Mae busnesau a theuluoedd yn yr ardal hefyd wedi cynnig ystafelloedd i’r rhai sydd eu hangen.

Mae Ysgol Pencae ym Mhenmaenmawr ac Ysgol Capelulo ar gau ddydd Llun oherwydd y tân.

Image
Tân Penmaenmawr

Yn ôl y diweddariad diweddaraf gan y gwasanaeth tân nos Sul, dywedodd llefarydd y dylai pobl barhau i osgoi’r ardaloedd sydd wedi’u heffeithio.

Mae trigolion Dwygyfylchi a Phenmaenmawr yn cael eu cynghori i gadw ffenestri a drysau ar gau os yw’r mwg yn effeithio arnyn nhw, ac i ofyn am gyngor meddygol os ydyn nhw’n cael trafferth anadlu.

Mae mwg o’r tân hefyd wedi ymledu i ardaloedd Sir Fôn tua’r gorllewin a Bae Colwyn tua’r dwyrain.

Gwaith 'eithriadol'

Wrth roi diweddariad i drigolion fore Llun, dywedodd y Cynghorydd Cathy Augustine ar Facebook: "Cafodd digwyddiad mawr ei ddatgan ddoe wrth i wasanaethau brys daclo'r tân gwyllt ar Fynydd Conwy. Mewn gwirionedd, maen nhw wedi bod yn delio gyda sawl tân ar wahân, sydd wedi gwneud sefyllfa anodd yn llawer mwy heriol.

"Yn ffodus, mae pawb wedi'u cadw'n saff, sef y pwynt pwysicaf i'w nodi."

Fe wnaeth y cynghorydd roi teyrnged i waith "eithriadol" y gwasanaethau brys ac i bobl, gan gynnwys y ffermwr Gareth Wyn Jones, am eu gwaith wrth ddiogelu merlod y Carneddau.

Ychwanegodd: "Bore 'ma, mae llawer o griwiau yn dal i fod yn bresennol gyda nifer o unedau wedi'u gwasgaru ar draws y mynydd – yn monitro ac yn brwydro yn erbyn y sefyllfa.

"Ni yw'n helpu'r sefyllfa nad oes rhagolygon glaw tan ddydd Gwener ac mae'r gwyntoedd yn parhau'n uchel.

"Dylai trigolion barhau i fod yn wyliadwrus. Cadwch ffenestri a drysau ar gau os ydych chi mewn ardal o fwg trwm. Bydd yr heddlu a'r gwasanaeth tân yn cysylltu'n uniongyrchol ag unrhyw eiddo sydd mewn perygl.

"Mae Cyngor Sir Conwy wedi sicrhau bod canolfan orffwys swyddogol bellach ar agor yn llawn ac mae timau o'r Adran Tai a Gofal Cymdeithasol wedi lletya'r holl bobl a oedd yn rhaid gadael eu cartrefi, a ofynnodd am gymorth, ac wedi cynnal gwiriadau lles ac ati."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.