Tan Mynydd Conwy: Digwyddiad mawr wedi’i ddatgan
Mae’r gwasanaethau brys wedi datgan digwyddiad mawr wrth iddyn nhw barhau i daclo tân gwyllt ar raddfa fawr ger Bwlch Sychnant ar Fynydd Conwy.
Dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru fod diffoddwyr tân yn gweithio mewn amodau heriol i geisio atal y tân rhag lledaenu ac i ddiogelu cymunedau, eiddo, seilwaith a’r amgylchedd.
Mae nifer o beiriannau tân, adnoddau arbenigol ar gyfer tanau gwyllt ac asiantaethau partner yn rhan o’r ymateb.
Inline Tweet: https://twitter.com/northwalesfire/status/2076308736348414100?s=46&t=ORPiUkmNH3sLBy4-_vkwDA
Dywedodd Jami Jennings, Rheolwr Cyflenwi Gwasanaeth y gwasanaeth tân: “Oherwydd maint a chymhlethdod y digwyddiad, mae disgwyl i’r gwaith barhau am beth amser.
“Byddem yn gofyn i aelodau’r cyhoedd osgoi’r ardal er mwyn caniatáu i’r gwasanaethau brys weithio’n ddiogel ac yn effeithiol.
“Dylai pobl ddilyn unrhyw gyfarwyddiadau ynglŷn â chau ffyrdd, i adael ardaloedd neu gyfarwyddiadau ddiogelwch sy’n cael eu cyhoeddi gan y gwasanaethau brys.”
Mae trigolion Dwygyfylchi a Phenmaenmawr yn cael eu cynghori i gadw ffenestri a drysau ar gau os yw’r mwg yn effeithio arnyn nhw, ac i ofyn am gyngor meddygol os ydyn nhw’n cael trafferth anadlu.
‘Mŵg drwy’r awyr’
Dywedodd un person lleol wrth Newyddion S4C eu bod wedi deffro fore heddiw [ddydd Sul] i arogl llosgi mawr drwy’r tŷ.
“Mi oedd ffenestri’r tŷ i gyd yn agored oherwydd y tywydd poeth.
“Pan ddaru ni ddeffro, ddaru ni boeni’n syth fod ‘na ran o’r tŷ ar dân, ond erbyn gweld roedd y mwg yn drwch drwy’r arwyr.
“Dan ni ychydig filltiroedd i ffwrdd o’r tân ei hun, felly mae’n rhyfeddol ei fod wedi cael y fath effaith, a dan ni’n poeni fwy am y bobl fach sy’n byw ac wedi eu hynysu yng nghanol y fflamau.”
Mae gyrwyr hefyd yn cael eu rhybuddio i ddisgwyl oedi ac i ystyried defnyddio llwybrau eraill.
Inline Tweet: https://twitter.com/newyddions4c/status/2076334286962037047?s=61
Mae Heddlu Gogledd Cymru yn cydlynu’r cynllun i symud trigolion o’r ardal, gyda’r rhai sy’n cael eu gofyn i symud yn cael eu cynghori i fynd i’r ganolfan orffwys sydd wedi’i sefydlu.
Ychwanegodd Mr Jennings: “Gall tanau gwyllt ledaenu’n gyflym, yn enwedig yn ystod cyfnodau o dywydd poeth, sych a gwyntog.
“Rydym yn parhau i ofyn i bawb ymddwyn yn gyfrifol drwy beidio â defnyddio barbeciws tafladwy, sicrhau bod sigaréts wedi’u diffodd yn llwyr a ffonio 999 ar unwaith os ydyn nhw’n gweld unrhyw arwyddion o dân.”
Mae’r gwasanaeth tân yn gweithio gyda’r heddlu, y gwasanaeth ambiwlans, yr awdurdod lleol, tirfeddianwyr ac asiantaethau amgylcheddol.
Bydd rhagor o adnoddau’n cael eu hanfon i’r ardaloedd lle mae’r angen mwyaf, meddai’r gwasanaeth.