Llandudno: Gyrrwr wedi’i anafu’n ddifrifol ar ôl i gar daro wal ar y Gogarth

Llun: Colin Lynnes
Gwrthdrawiad ar y Gogarth

Mae gyrrwr wedi’i gludo i’r ysbyty gydag anafiadau difrifol ar ôl i gar wrthdaro â wal ar y Gogarth yn Llandudno ddydd Sadwrn.

Ychydig ar ôl 11.00, cafodd Heddlu Gogledd Cymru sawl galwad am Nissan Qashqai lliw arian oedd yn cael ei yrru’n afreolus o amgylch copa’r Gogarth ac ar dir amaethyddol cyfagos.

Yn ôl yr heddlu, roedd y cerbyd wedi taro ffensys a waliau cyn cael ei ganfod ar Marine Drive.

Roedd y cerbyd wedi gwrthdaro â wal ac wedi dod i stop uwchben hen safle magnelau’r Ail Ryfel Byd ar y Gogarth.

Cafodd y gyrrwr ei gludo i’r ysbyty, lle mae’n parhau i gael triniaeth am anafiadau difrifol.

Mae’r heddlu bellach yn apelio am dystion a welodd y cerbyd cyn y gwrthdrawiad neu oedd yn yr ardal ar y pryd.

Maen nhw hefyd am glywed gan unrhyw un sydd â lluniau camera dash-fwrdd neu ffôn symudol o’r cerbyd.

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â Heddlu Gogledd Cymru drwy eu gwefan neu drwy ffonio 101, gan ddyfynnu’r cyfeirnod O110431.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.