Tan Mynydd Conwy: Digwyddiad mawr wedi’i ddatgan

Llun: Aaran Lennox
Tân Mynydd Conwy

Mae’r gwasanaethau brys wedi datgan digwyddiad mawr wrth iddyn nhw barhau i daclo tân gwyllt ar raddfa fawr ger Bwlch Sychnant ar Fynydd Conwy.

Dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru fod diffoddwyr tân yn gweithio mewn amodau heriol i geisio atal y tân rhag lledaenu ac i ddiogelu cymunedau, eiddo, seilwaith a’r amgylchedd.

Mae nifer o beiriannau tân, adnoddau arbenigol ar gyfer tanau gwyllt ac asiantaethau partner yn rhan o’r ymateb.

Dywedodd Jami Jennings, Rheolwr Cyflenwi Gwasanaeth y gwasanaeth tân: “Oherwydd maint a chymhlethdod y digwyddiad, mae disgwyl i’r gwaith barhau am beth amser.

“Byddem yn gofyn i aelodau’r cyhoedd osgoi’r ardal er mwyn caniatáu i’r gwasanaethau brys weithio’n ddiogel ac yn effeithiol.

“Dylai pobl ddilyn unrhyw gyfarwyddiadau ynglŷn â chau ffyrdd, i adael ardaloedd neu gyfarwyddiadau ddiogelwch sy’n cael eu cyhoeddi gan y gwasanaethau brys.”

Mae trigolion Dwygyfylchi a Phenmaenmawr yn cael eu cynghori i gadw ffenestri a drysau ar gau os yw’r mwg yn effeithio arnyn nhw, ac i ofyn am gyngor meddygol os ydyn nhw’n cael trafferth anadlu.

Mae gyrwyr hefyd yn cael eu rhybuddio i ddisgwyl oedi ac i ystyried defnyddio llwybrau eraill.

Mae Heddlu Gogledd Cymru yn cydlynu’r cynllun i symud trigolion o’r ardal, gyda’r rhai sy’n cael eu gofyn i symud yn cael eu cynghori i fynd i’r ganolfan orffwys sydd wedi’i sefydlu.

Ychwanegodd Mr Jennings: “Gall tanau gwyllt ledaenu’n gyflym, yn enwedig yn ystod cyfnodau o dywydd poeth, sych a gwyntog.

“Rydym yn parhau i ofyn i bawb ymddwyn yn gyfrifol drwy beidio â defnyddio barbeciws tafladwy, sicrhau bod sigaréts wedi’u diffodd yn llwyr a ffonio 999 ar unwaith os ydyn nhw’n gweld unrhyw arwyddion o dân.”

Mae’r gwasanaeth tân yn gweithio gyda’r heddlu, y gwasanaeth ambiwlans, yr awdurdod lleol, tirfeddianwyr ac asiantaethau amgylcheddol.

Bydd rhagor o adnoddau’n cael eu hanfon i’r ardaloedd lle mae’r angen mwyaf, meddai’r gwasanaeth.

Image
Llun Aaran Lennox
Llun: Aaran Lennox

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.