Ffrindiau yn paratoi at her 100 milltir er cof am Josh Roberts
Mae grŵp o ffrindiau’n paratoi at daith gerdded o gartref newydd clwb pêl-droed Everton i stadiwm Yr Oval yng Nghaernarfon er cof am Josh Lloyd Roberts.
Bwriad y criw yn ogystal â chofio am eu ffrind, ydi codi arian i dri sefydliad sy’n cefnogi pobl ifanc ac iechyd meddwl.
Bydd y grŵp o ffrindiau’n cerdded dros 100 milltir rhwng Lerpwl a Chaernarfon ddiwedd mis Awst er cof am Josh, a fu farw mewn gwrthdrawiad ar gyrion tref Caernarfon yn 2023.
Bydd yr her yn dechrau ar 27 Awst yn Stadiwm Hill Dickinson, cartref newydd Everton, ac yn dod i ben ar 30 Awst yn yr Oval, cartref Clwb Pêl-droed Tref Caernarfon.
Roedd Josh, a oedd yn cael ei adnabod gan lawer fel “Pickle”, yn gefnogwr selog o’r ddau glwb. Dyna’r rheswm dros ddewis y mannau cychwyn a gorffen.
Bydd yr her yn codi arian i dri achos sy’n agos at galonnau’r criw o ffrindiau. Gôl, Clwb Ieuenctid Porthi Dre a Two Pints Deep, elusen sy’n gweithio i godi ymwybyddiaeth o gyflyrau iechyd meddwl mewn dynion.
Dywedodd y trefnwyr fod Gôl a Phorthi Dre yn gwneud gwahaniaeth sylweddol i fywydau pobl ifanc yn y gymuned yng Nghaernarfon.
Mae Two Pints Deep yn annog dynion i siarad yn agored am eu hiechyd meddwl ac yn ceisio creu cyfleoedd iddyn nhw allu gwneud hynny.