Teyrngedau i athro ‘annwyl a gwerthfawr iawn’ o Geredigion

Kevin Jones

Mae teyrngedau wedi eu rhoi i athro ‘annwyl a gwerthfawr iawn’ o Geredigion yn dilyn ei farwolaeth sydyn.

Roedd Kevin Jones, 52 oed, yn athro blwyddyn pump yn Ysgol Bro Pedr, Llanbed, ac wedi gwasanaethu fel llywodraethwr.

Roedd yn dad i ddwy o ferched ac yn ŵr i Carys Griffiths-Jones, athrawes yn Ysgol Gynradd Aberaeron.

Mewn teyrnged, dywedodd Ysgol Bro Pedr y byddai’n cael ei gofio fel “gŵr a thad annwyl a ffyddlon.”

“Gyda thristwch mawr cawsom wybod am farwolaeth sydyn Mr Kevin Jones nos Wener,” meddai llefarydd ar ran yr ysgol.

“Roedd Mr Kevin Jones yn aelod annwyl a gwerthfawr iawn o gymuned ein hysgol dros nifer o flynyddoedd, gan wasanaethu'n ffyddlon fel athro oed cynradd a fel llywodraethwr. 

“Roedd ei gefnogaeth cyson, ei gyngor doeth a'i ymroddiad diflino i'n hysgol yn golygu cymaint i gydweithwyr, disgyblion, rhieni a gofalwyr, llywodraethwyr a'r gymuned ehangach.”

Dywedodd yr ysgol bod gan Mr Jones angerdd arbennig dros y Celfyddydau a thrwy ei gefnogaeth, “cafodd llawer o ddisgyblion y cyfle i berfformio, i ddatblygu eu creadigrwydd ac i fagu hyder a fydd yn aros gyda nhw am flynyddoedd i ddod.”

“Yn ogystal â'i gyfraniad arbennig i'n hysgol, byddwn yn ei gofio fel gŵr a thad annwyl a ffyddlon. 

“Roedd yn ymfalchïo'n arw yn llwyddiannau ei ferched, ac roedd ei gariad a'i falchder ohonynt yn amlwg i bawb oedd yn ei adnabod.”

Mae’r ysgol yn dweud eu bod yn derbyn arweiniad gan Gyngor Ceredigion ynglŷn â'r ffordd i rannu’r newyddion gyda disgyblion. Bydd cefnogaeth ychwanegol yn yr ysgol yn yr wythnos hon gan dîm o seicolegwyr addysg a chwnselwyr.

Dywedodd yr ysgol y byddai plant ac aelodau staff yn cael eu hannog i wisgo glas, sef hof liw Mr Jones, fel teyrnged arbennig iddo ddydd Gwener, “fel arwydd o'n parch, ein cof a'n gwerthfawrogiad o bopeth a wnaeth dros ein hysgol a'n cymuned.

“Bydd Kevin yn cael ei gofio nid yn unig am ei wasanaeth a'i ymroddiad, ond hefyd am ei garedigrwydd, ei gyfeillgarwch a'r effaith gadarnhaol a gafodd ar fywydau cymaint o blant, phobl ifanc a phawb oedd yn ei adnabod a’i barchu.

“Estynnwn ein cydymdeimlad diffuant i'w wraig, ei ferched, ei deulu a'i ffrindiau. Bydd ein meddyliau gyda nhw wrth i ni gofio a dathlu bywyd gŵr a ffrind arbennig iawn.”

‘Ymroddiad llwyr’

Mae Ysgol Gynradd Aberaeron hefyd wedi rhannu teyrnged iddo ar y cyfryngau cymdeithasol.

“Roedd Kevin yn aelod hynod werthfawr a phoblogaidd o gymuned Ysgol Gynradd Aberaeron. Fel rhiant gweithgar a chefnogol, roedd bob amser yn barod i gyfrannu at fywyd yr ysgol ac i gefnogi ein disgyblion a’n staff.

“Bydd ei garedigrwydd, ei gynhesrwydd a’i natur hael yn cael eu cofio gan bawb a gafodd y fraint o’i adnabod.

“Er ei ymroddiad llwyr i’w waith, ei deulu oedd canolbwynt ei fywyd. Roedd yn gefnogwr ffyddlon a balch o bopeth roedd Carys, Ela a Nanw yn ei wneud, gan eu hannog a’u cefnogi ym mhob cam.

“Roedd yn wyneb cyfarwydd mewn eisteddfodau, gweithgareddau CFfI ac mewn nifer o weithgareddau allgyrsiol eraill yr oedd y teulu yn cymryd rhan ynddynt.

“Bydd ei golled yn cael ei theimlo’n ddwys ledled cymuned ein hysgol. Mae ein meddyliau a’n gweddïau gyda Carys, Nanw, Ela a’r teulu cyfan yn ystod y cyfnod anodd a thrist hwn. 

Fe ychwanegon nhw: “Mae cymuned Ysgol Gynradd Aberaeron yn dlotach o lawer oherwydd ei farwolaeth, ond yn gyfoethocach am gael ei hadnabod a chael budd o’i gyfeillgarwch, ei gymorth a’i garedigrwydd. 

“Nid yw’r rhai a garwn byth yn ein gadael; maent yn aros yn ein calonnau am byth.” 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.