'Cloc yn tician' medd Trump wrth i drafodaethau heddwch oedi gydag Iran

Donald Trump

Mae Donald Trump wedi rhybuddio bod "y cloc yn tician" wrth i drafodaethau rhwng America ac Iran ynglŷn â dod a'r rhyfel i ben gael eu hoedi.

Ar y wefan gymdeithasol Truth Social dywedodd Arlywydd yr UDA bod angen i Iran "symud yn gyflym" a bod "amser yn brin".

Mae'r cyfryngau yn Iran yn dweud bod America wedi methu a gwneud unrhyw gonsesiynau wrth ymateb i gynigion diweddaraf Tehran.

Yn ôl Trump mae gofynion Tehran yn "hollol annerbyniol".

Ond dweud eu bod yn "rhesymol" ac yn "hael" wna Esmail Baghaei, llefarydd ar ran gweinidogaeth dramor Iran.

Mae asiantaeth newyddion Tasnim yn Iran, sydd â chysylltiadau agos â'r llywodraeth, yn dweud bod y gofynion yn cynnwys dod a'r rhyfel i ben ar bob ffrynt. 

Cyfeirio at ymosodiadau Israel yn erbyn Hezbollah yn Libanus mae hyn. Mae Iran hefyd yn gofyn am roi terfyn ar flocâd llyngesol yr Unol Daleithiau o borthladdoedd Iran, a gwarantau na fydd ymosodiadau pellach ar Iran.

Y gred yw hefyd bod Iran yn galw am iawndal am y dinistr sydd wedi ei achosi yn sgil y rhyfel a phwyslais ar sofraniaeth Iran yng nghulfor Hormuz. 

Yn ôl asiantaeth newyddion arall lled swyddogol yn y wlad, Fars, mae America wedi gosod pum amod wrth ymateb i ofynion Tehran. Yn eu plith mae'r gofyniad bod Iran yn cadw un safle niwclear yn unig.

Ddydd Gwener fe awgrymodd Arlywydd yr UDA y byddai yn derbyn gohirio rhaglen niwclear Iran am 20 mlynedd. Mae hyn wedi bod yn faen tramgwydd rhwng y ddwy wlad ac yn awgrymu bod Trump wedi newid ei safbwynt ar y mater.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.