'Y gorau yn y byd': Gwesty yn Aberaeron yn croesawu sêl bendith Jeremy Clarkson
Mae perchnogion yr Harbourmaster yn Aberaeron yn dweud eu bod nhw "wrth eu bodd" ar ôl i Jeremy Clarkson ddisgrifio'r gwesty fel yr un "gorau yn y byd".
Mewn colofn yn The Sunday Times, fe ddywedodd y cyflwynydd a’r ffermwr ei fod yn well gwesty glan môr na gwesty moethus y Four Seasons ym Miami lle'r oedd wedi aros yn ddiweddar.
Yn ei golofn, soniodd Clarkson am ei daith ddiweddar i orllewin Cymru, gan ddisgrifio Aberaeron yn benodol fel lle “poenus o brydferth” - er nad oedd, meddai, yn gallu ynganu enw'r dref.
Wrth ymateb i’r golofn ar gyfryngau cymdeithasol, cadarnhaodd y Harbourmaster eu bod nhw wedi cael y “pleser o groesawu Jeremy Clarkson” yn ddiweddar.
“Rydym wrth ein bodd ei fod wedi mwynhau ei arhosiad gyda ni,” meddai’r gwesty.
“Wel, mwy na mwynhau, gan ei fod wedi enwi’r HM yn ei golofn ddiweddaraf ar gyfer The Times fel ‘y gwesty gorau yn y byd’.
“Allwn ni ddim cytuno mwy. Diolch, Syr!”
'Poenus o brydferth'
Fe wnaeth Clarkson ganmol y staff, y golygfeydd a’r bwyd, gan ddweud ei fod wedi cael cocos wedi’u ffrio a brithyll môr i swper.
Dywedodd fod gorllewin Cymru yn teimlo’n “hyfryd o estron”, gan ganmol y tirlun a’r trefi glan môr.
“Anaml iawn, dw i’n dweud bod unrhyw le yn y DU yn well na gogledd Dyfnaint, ond mae’r lle hwn.
“Mae bron cystal â Swydd Efrog,” meddai.
Er bod yr erthygl yn llawn canmoliaeth i orllewin Cymru, fe wnaeth Clarkson ambell sylw arall oedd yn fwy dadleuol.
Dywedodd ei fod wedi aros mewn tref arfordirol nad oedd “erioed wedi clywed amdani”, ac a oedd yn “amhosib ei hynganu”.
Gan gyfeirio at Aberaeron, fe alwodd y dref yn, “Abaeoeoaeoraeareauraeary. Rhywbeth fel ’na.”
Ychwanegodd, “Mae fel petaen nhw wedi cymryd yr holl lafariaid nad oedd y trefi eraill wedi’u defnyddio, a’u defnyddio nhw i gyd.”
Dywedodd hefyd fod pobl weithiau yn cysylltu Cymru â “ket a hunanladdiad”, cyn dweud bod gan Aberaeron “ei mojo”.
Wrth ddisgrifio’r dref, dywedodd Clarkson ei bod yn llawn “plant Enid Blyton” yn pysgota ac yn bwyta sglodion ar lan yr harbwr.
Fe wnaeth hefyd ganmol y tai lliwgar o amgylch yr harbwr a’r siopau annibynnol ar hyd y cei.