Cinio ysgol am ddim yn 'lleddfu pwysau ariannol' ar deuluoedd

Cinio ysgol am ddim - ysgol gynradd

Mae prydau ysgol am ddim mewn ysgolion yng Nghymru yn "lleddfu pwysau ariannol" ar deuluoedd, yn ôl ymchwil newydd.

Cafodd y polisi cinio am ddim ei gyflwyno i blant mewn ysgolion cynradd gan Lywodraeth Cymru yn 2022 mewn ymateb i'r argyfwng costau byw.

Cyn hynny, teuluoedd oedd ar incwm isel ac yn derbyn taliad credyd cynhwysol oedd yn medru cael y cinio ysgol am ddim.

Cafodd y polisi ei gyflwyno yn raddol.

Casgliad yr ymchwil a gafodd ei gomisiynu gan Lywodraeth Cymru oedd bod y polisi yn lleihau stigma a bod llai o bwysau ariannol ar deuluoedd, yn enwedig y rhai a oedd ychydig dros y trothwy ar gyfer prydau ysgol am ddim o'r blaen.

Yr ymchwil

Fe gafodd yr ymchwil ei lunio rhwng Ionawr a Medi 2025. Cafodd cyfweliadau eu cynnal gan arweinwyr awdurdodau lleol, y rhai sy'n darparu'r bwyd ysgol a phobl yn y maes iechyd, addysg ac ymchwil. 

Roedd yna astudiaeth fanwl mewn 13 o ysgolion cynradd ar draws Cymru ac arolwg gan ysgolion cynradd gyda 47 ysgol yn ymateb. 

Y bwriad wrth gyflwyno'r cinio ysgol oedd bod plant yn medru cael pryd o fwyd maethlon a bod yna welliant mewn cyrhaeddiad addysgol. Roedd y llywodraeth hefyd eisiau lleihau anghydraddoldebau iechyd.

Mae'r ysgolion wnaeth gymryd rhan yn yr ymchwil yn gyffredinol wedi croesawu'r polisi cinio ysgol am ddim gan ddweud bod y stigma wedi lleihau gan fod cael gwared ar wahaniaethau amlwg rhwng dysgwyr wedi creu amgylchedd mwy cynhwysol.

Roedd yr ysgolion hefyd yn dweud bod dysgwyr a oedd yn y gorffennol yn llwglyd ar ôl cyrraedd yr ysgol bellach yn gallu cael o leiaf un pryd poeth y dydd.

Ers cyflwyno cinio ysgol am ddim mae ysgolion yn gorfod cyflwyno bwydydd iach ar y fwydlen sydd wedi golygu prydau mwy cytbwys i'r disgyblion a mwy o ddewis o fwydydd iach.

Heriau 

Mae'r ymchwil yn dweud bod yna rhai heriau wedi bod, gan gynnwys cael mynediad at nwyddau lleol, trefniadau amser cinio yn enwedig mewn ysgolion mwy gyda llai o le a mwy o bwysau ar staff.

Mae'r adroddiad hefyd yn nodi bod hi ddim yn glir os yw presenoldeb disgyblion wedi ei effeithio gan y polisi.

Ers mis Rhagfyr mae Llywodraeth Cymru wedi cynyddu faint maen nhw yn gwario ar bob pryd ysgol o £3.20 i £3.40.

Dywedodd Pennaeth Ysgol Gynradd Garnteg, Sue Roche bod y prydau ysgol am ddim yn " ffordd wych i blant fwynhau pryd blasus amser cinio, wrth gymdeithasu gyda'u cyfoedion. Mae'r effaith yn wych. 

"Mae'r disgyblion yn cael y dechrau gorau i'w diwrnod, ac mae'n sicrhau bod dysgwyr yn yr ysgol yn barod i ddysgu ac yn mwynhau pryd poeth maethlon amser cinio yn barod ar gyfer eu sesiwn yn y prynhawn."

Ychwanegodd bod teuluoedd yn gwerthfawrogi'r polisi am fod plant yn trio bwydydd newydd a bod eu plant yn cael o leiaf un pryd maethlon bob dydd.

'Gwella ymddygiad'

"Mae llawer o staff yn Garnteg wedi sylwi bod y prydau bwyd yn arwain at well gallu i ganolbwyntio a gwell ymddygiad, a'u bod yn codi lefelau egni disgyblion trwy gydol y dydd gan arwain at well cyfleoedd dysgu a chanlyniadau i'n dysgwyr," meddai. 

Yn ôl Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Lynne Neagle mae prydau ysgol am ddim yn "gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i deuluoedd, ysgolion a dysgwyr ledled Cymru."

"Mae'r gwerthusiad hwn yn dangos ein bod nid yn unig yn lleddfu pwysau ariannol ar aelwydydd ond hefyd yn creu amgylcheddau ysgol mwy cynhwysol lle gall pob plentyn fwynhau pryd maethlon gyda'i gilydd.

"Mae sicrhau bod plant yn cael eu bwydo'n dda yn cefnogi eu gallu i ddysgu a ffynnu, ac rwy'n falch bod ein buddsoddiad parhaus yn y polisi hwn yn golygu ein bod yn ychwanegu at y canfyddiadau cynnar cadarnhaol hyn i sicrhau canlyniadau hyd yn oed yn well i'n dysgwyr." 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.