Ceredigion i gynnal Eisteddfod yr Urdd 2029?

Mr Urdd

Mae uwch-swyddogion Cyngor Ceredigion wedi cefnogi'r posibilrwydd o wario hyd at £500,000 i groesawu Eisteddfod yr Urdd i'r sir wrth iddi ddathlu ei chanmlwyddiant yn 2029. 

Mewn cyfarfod ddydd Mawrth o Gabinet Cyngor Sir Ceredigion, fe ofynnwyd i aelodau ystyried gwahodd yr ŵyl i'r sir yn 2029, ac i ystyried yr oblygiadau adnodd ac ariannol i'r cyngor pe bai'r cais yn cael ei dderbyn. 

Sefydlwyd yr Urdd ym 1922 gan Syr Ifan ab Owen Edwards o Aberystwyth, gyda Chanolfan Llangrannog yn cael ei sefydlu ym 1932, sef canolfan gyntaf y sefydliad.

Bydd Eisteddfod yr Urdd yn dathlu ei chanmlwyddiant yn 2029, a'r tro diwethaf i Geredigion ei chynnal hi oedd yn Llanerchaeron, ger Aberaeron yn 2010. 

Nododd yr adroddiad wrth aelodau fod yr Eisteddfod Genedlaethol a gafodd ei chynnal yn Nhregaron yng Ngheredigion yn 2022 wedi dod â budd o £10.9m i'r economi leol.

Dywedodd yr adroddiad hefyd fod disgwyl i'r cyngor sy'n cynnal yr ŵyl wneud cyfraniad ariannol o £200,000 tuag at gynnal Eisteddfod yr Urdd. 

Ychwanegodd yr adroddiad y byddai angen cyfraniad o hyd at £300,000 er mwyn i'r awdurdod lleol gael presenoldeb ar y Maes, er mwyn cael stondin i hyrwyddo Ceredigion yn ogystal ag unrhyw ffioedd cysylltiedig fel cau ffyrdd a chael gwared ar derfynau cyflymder dros dro.

"Felly, fe fyddai angen cyfanswm o £500,000 i gynnal Eisteddfod yr Urdd 2029," meddai'r adroddiad.

Er bod aelodau wedi cefnogi'r alwad, fe wnaeth y Cynghorydd Elizabeth Evans fynegi ambell i bryder. 

Er ei bod yn croesawu'r posibilrwydd, dywedodd fod y buddion economaidd "wedi eu gorbwysleisio" o gymharu â'r Eisteddfod Genedlaethol. 

Bydd Eisteddfod yr Urdd 2026 yn cael ei chynnal ym Môn o 23 i 29 Mai.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.