Cau ysgolion: Beth yw’r cynigion sydd o flaen Cabinet Sir Gâr ddydd Llun?

Ysgol Bancffosfelen

Fe fydd cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin yn cyfarfod ddydd Llun i drafod dechrau ymgynghoriad ffurfiol ar gynigion i gau pedair ysgol yn y sir.

Fis diwethaf, fe benderfynodd pwyllgor craffu addysg y cyngor gynnal ymgynghoriad ar ddyfodol y pedair ysgol, sef Ysgol Blaenau, Ysgol Pontiets, Ysgol Carwe ac Ysgol Bancffosfelen.

Mae Ysgol Blaenau ger Llandybie a'r tair ysgol arall yng Nghwm Gwendraeth.

Mae gwrthwynebiad lleol wedi bod i'r cynigion i gau'r ysgolion. Mae llywodraethwyr y tair ysgol yng Nghwm Gwendraeth yn galw am atal dros dro unrhyw benderfyniadau i gau ysgolion cyfrwng Cymraeg yn genedlaethol.

Mewn llythyr at yr Ysgrifennydd Cabinet dros Addysg, Anna Brychan, bythefnos yn ôl, fe alwodd y llywodraethwyr am "foratoriwm ar gau unrhyw ysgol cyfrwng Cymraeg" am y tro, gan wrthwynebu'r syniad o gau ysgolion "yn un o gadarnleoedd y Gymraeg".

Roedd y llythyr hefyd yn cyfeirio at "bwysigrwydd Cwm Gwendraeth, nid yn unig i Gymreictod y Sir, ond i barhad yr iaith yn genedlaethol".

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud mai mater i lywodraeth leol yw cynllunio lleoedd mewn ysgolion.

Beth yw'r cynigion?

O dan y cynigion, byddai'r pedair ysgol gynradd Gymraeg yn cau'n ffurfiol ar 31 Rhagfyr 2027, gyda'r disgyblion yn trosglwyddo i ysgolion eraill o fis Ionawr 2028.

Os bydd y cabinet yn cytuno yn ei gyfarfod am 10:00 ddydd Llun, bydd yr ymgynghoriadau'n cael eu cynnal rhwng 10 Tachwedd a 22 Rhagfyr.

Ni fydd penderfyniad terfynol ar gau'r ysgolion yn cael ei wneud ar hyn o bryd.

Yn ôl y dogfennau sydd gerbron y cabinet, mae niferoedd isel o ddisgyblion, lleoedd gwag a phwysau ariannol ymhlith y rhesymau dros y cynigion.

Mae cyflwr adeiladau Ysgol Carwe ac Ysgol Bancffosfelen hefyd yn ffactor.

Yn ôl cyfrifiad ysgolion mis Ionawr 2026, roedd 28 o ddisgyblion yn Ysgol Blaenau, 21 yn Ysgol Pontiets, 58 yn Ysgol Carwe a 48 yn Ysgol Bancffosfelen. Mae'r ffigurau hynny'n cynnwys plant meithrin.

Mae'r cyngor yn dweud bod dros 1,000 yn llai o blant o oedran ysgol gorfodol yn ysgolion cynradd y sir ym mis Ionawr 2026 nag yn 2021.

Roedd mwy na 3,500 o leoedd gwag ar draws 94 ysgol gynradd y sir, sef dros 20% o'r holl leoedd.

Byddai disgyblion Ysgol Blaenau yn trosglwyddo i Ysgol Gymraeg Penygroes neu Ysgol Llandybie o dan y cynigion, a disgyblion Ysgol Pontiets yn mynd i Ysgol Ponthenri.

Roedd 71% o leoedd Ysgol Blaenau a 73% o leoedd Ysgol Pontiets yn wag yn ôl cyfrifiad mis Ionawr.

Mae'r cyngor yn rhagweld y bydd diffyg ariannol Ysgol Blaenau yn cyrraedd £362,566 erbyn diwedd blwyddyn ariannol 2026/27.

Yn achos Ysgol Carwe, mae'r disgyblion eisoes yn cael eu haddysg ar safle Ysgol Gwynfryn ym Mhontiets.

Cafodd adeilad Ysgol Carwe ei gau ym mis Medi 2025 ar ôl i ymchwiliad ganfod problemau strwythurol a oedd yn golygu nad oedd yn ddiogel i ddisgyblion a staff ei ddefnyddio.

Y cynnig yw i'r disgyblion presennol barhau yn Ysgol Gwynfryn, yn amodol ar ddewis y rhieni, ac i ddalgylch Ysgol Carwe ddod yn rhan o ddalgylch Ysgol Gymunedol Trimsaran.

Byddai disgyblion Ysgol Bancffosfelen yn trosglwyddo i Ysgol Pontyberem.

Colli swyddi'n bosibl

Cafodd dogfen ymgynghori Ysgol Bancffosfelen ei diwygio ar ôl i aelodau'r pwyllgor craffu godi pryderon am gywirdeb a chyflwyniad rhywfaint o'r wybodaeth, gan gynnwys ffigurau lleoedd gwag a chyfeiriadau at arweinyddiaeth yr ysgol.

Fe gafodd y ddogfen ddiwygiedig ei chefnogi i fynd gerbron y cabinet mewn cyfarfod arbennig ar 23 Hydref.

Yn ystod y broses graffu, fe ddywedodd aelod cabinet y cyngor dros addysg nad oedd pryderon ar hyn o bryd am ansawdd yr addysg nac arweinyddiaeth Ysgol Bancffosfelen.

Mae'r cyngor yn dadlau y byddai'r cynigion yn gwneud gwell defnydd o adnoddau ac yn rhoi cyfleoedd addysgol a chymdeithasol ehangach i'r disgyblion.

Ond mae'r dogfennau hefyd yn cydnabod yr effaith bosibl ar gymunedau, y tarfu ar blant a theuluoedd, a'r angen i rai disgyblion deithio ymhellach.

Mae'r cyngor yn dweud y byddai'n ceisio osgoi diswyddiadau gorfodol drwy ystyried swyddi eraill i staff, ond na all ddiystyru'r posibilrwydd o golli swyddi.

Pe bai'r cabinet yn cytuno i ddechrau'r ymgynghoriadau, byddai rhieni, disgyblion, staff ac aelodau'r cymunedau yn cael cyfle i gyflwyno eu barn a chynnig dewisiadau eraill cyn unrhyw benderfyniad terfynol.

Mae'r cyngor eisoes wedi gwneud penderfyniad terfynol i gau dwy ysgol gynradd wledig arall yn y sir.

Mewn cyfarfod llawn o'r cyngor ym mis Hydref, fe wnaeth cynghorwyr ystyried dau adroddiad oedd yn amlinellu'r gwrthwynebiadau i gau Ysgol Meidrim ac Ysgol y Fro yn Llangyndeyrn.

Bydd y ddwy ysgol yn cau ar ddiwedd y flwyddyn.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.