Cau dwy ward i ymwelwyr a chleifion newydd yn Ysbyty Glangwili oherwydd achosion o'r clefyd crafu
Mae dwy ward yn Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin wedi cau dros dro i ymwelwyr a chleifion newydd yn dilyn achosion o'r clefyd crafu (scabies).
Dywedodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda fod y cyfyngiadau ar wardiau Cadog a Dewi wedi dod i rym ddydd Mawrth fel mesur rhagofalus i atal yr haint rhag lledaenu.
Mae'r bwrdd iechyd yn dweud bod y sefyllfa'n cael ei hadolygu'n rheolaidd, a bod y risg i'r cyhoedd ehangach yn parhau i fod yn isel.
Daw'r newyddion wedi i Hywel Dda gyhoeddi'r wythnos diwethaf eu bod yn gwahardd ymweliadau i ward Bryngolau yn Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli oherwydd achos o'r clefyd yno.
Dywedodd y bwrdd iechyd bod mesurau ychwanegol i atal heintiau mewn lle yn Ysbyty Glangwili a rhaglen driniaeth wedi'u cyflwyno er mwyn diogelu cleifion, staff ac ymwelwyr.
Bydd unrhyw gleifion sydd wedi cael eu rhyddhau o'r ddwy ward yn ddiweddar yn cael eu cysylltu â nhw'n uniongyrchol.
Mae'r clefyd crafu yn gyflwr croen heintus sy'n cael ei achosi gan widdon bach iawn. Mae'n lledaenu'n bennaf drwy gyswllt uniongyrchol â'r croen dros gyfnod hir, ond gall hefyd ledaenu drwy rannu dillad neu ddillad gwely.
Nid yw'r cyflwr fel arfer yn achosi salwch difrifol ac mae modd ei drin yn effeithiol.
Dywedodd y bwrdd iechyd nad yw'r clefyd yn gysylltiedig â hylendid personol gwael, ac y gall effeithio ar unrhyw un.
Ychwanegodd fod iechyd a diogelwch cleifion, ymwelwyr a staff yn flaenoriaeth, a'i fod yn dilyn canllawiau cenedlaethol i leihau'r risg o'r haint yn lledaenu.
Mae'r bwrdd iechyd yn annog unrhyw un sydd â phryderon i gysylltu â'r wardiau'n uniongyrchol.