Carcharu dyn o Lundain gafodd ei ddal gyda 4.5kg o ganabis yng Nghaerfyrddin
Mae dyn o Lundain wedi cael dedfryd o ddwy flynedd yn y carchar ar ôl cael ei ddal gyda mwy na 4.5kg o ganabis a miloedd o bunnoedd mewn arian parod mewn maes parcio yng Nghaerfyrddin.
Fe blediodd Florin Kasmi, 37 oed, o Golders Green, Llundain, yn euog o fod â chyffuriau Dosbarth B yn ei feddiant gyda'r bwriad o'u cyflenwi ac i fod â meddiant o eiddo troseddol.
Cafodd ei ddal gyda chyffuriau gwerth tua £40,000 a dros £12,700 mewn arian parod yng Nghaerfyrddin ar 3 Awst eleni.
Roedd swyddogion Heddlu Dyfed-Powys wedi dod o hyd i Kasmi mewn maes parcio ar Stryd y Dŵr yn dilyn gwybodaeth bod ei gerbyd MG gwyn yn cael ei ddefnyddio i gludo cyffuriau o Loegr i ardal Sir Gâr.
Daeth swyddogion o hyd i becyn yn cynnwys swm mawr o ganabis yng nghist y car a bag arall yn cynnwys dros £12,700 mewn arian parod ym mlaen y car.
Cafodd Kasmi ei arestio a'i gymryd i’r ddalfa.
Fe wnaeth arbenigwr cyffuriau’r heddlu amcangyfrif y gallai'r canabis fod â gwerth o tua £40,000 ar y stryd.
Ni wnaeth Kasmi unrhyw sylw yn ei gyfweliad ond plediodd yn euog i fod â chyffuriau Dosbarth B yn ei feddiant gyda'r bwriad o'u cyflenwi ac i fod â meddiant o eiddo troseddol pan ymddangosodd yn Llys Ynadon Llanelli y diwrnod canlynol.
Cafodd ei ddedfrydu ar 18 Awst i ddwy flynedd yn y carchar.
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Tom Morgan o Uned Troseddau Difrifol a Threfnedig Heddlu Dyfed-Powys: "Mae dosbarthu canabis yn aml yn dibynnu ar lefelau difrifol o ecsbloetio ar wahanol gamau yn y gadwyn gyflenwi.
"Mae cyflenwi canabis yn drosedd ddifrifol, ac wrth atal yr unigolion hyn yn eu hynt, rydym yn cael gwared ar gyffuriau niweidiol o'n strydoedd ac yn mynd i'r afael â'r rhwydwaith cyffuriau ehangach sy'n bodoli i ecsbloetio pobl fregus.
“Waeth o ble rydych chi'n dod, os dewch â chyffuriau i ardal Dyfed-Powys, cewch eich dal a byddwn yn delio â chi yn llym."