Carcharu dyn o Loegr am 17 mlynedd am dreisio dynes ifanc yn Wrecsam

Gift Oladele

Mae dyn 24 oed o Loegr a dreisiodd dynes ifanc yn Wrecsam wedi cael ei garcharu.

Ymosododd Gift Oladele, o ardal Manceinion ac sydd heb gyfeiriad sefydlog ar hyn o bryd, ar y dioddefwr 19 oed wrth iddi gerdded adref ar ôl noson allan gyda ffrindiau.

Cyflwynodd Oladele ei hun i’r dioddefwr a’i ffrind yng nghanol y ddinas yn oriau mân 7 Medi'r llynedd.

Mynnodd hebrwng y dioddefwr adref, gan honni ei fod yn mynd i’r un cyfeiriad.

Wrth iddyn nhw gerdded ar eu pennau eu hunain tuag at Ffordd yr Wyddgrug, fe dreisiodd hi ar lwybr troed anghysbell.

Ar ôl yr ymosodiad, fe’i rhybuddiodd i beidio â rhoi gwybod i’r heddlu am y digwyddiad.

Cafodd Oladele ei arestio oriau’n ddiweddarach, ac fe gafodd ei gyhuddo a’i gadw yn y ddalfa yn dilyn ymchwiliad.

Gwadodd dreisio ac ymosod yn rhywiol, gan honni bod y dioddefwr wedi cydsynio, ond cafodd ei ganfod yn euog gan reithgor yn Llys y Goron yr Wyddgrug ym mis Mawrth.

Yn Llys y Goron Caernarfon ddydd Iau, cafodd ei ddedfrydu i gyfanswm o 25 mlynedd, gan gynnwys 17 mlynedd yn y carchar, gyda chyfnod estynedig o wyth mlynedd  ar drwydded.

Cafodd hefyd Orchymyn Atal Niwed Rhywiol amhenodol a gorchymyn atal i amddiffyn y dioddefwr am oes.

'Ymosodiad arswydus'

Dywedodd Prif Arolygydd Wrecsam, Caroline Mullen-Hurst: “Mae Oladele yn ymosodwr peryglus ac roedd merch ifanc yn ofni am ei bywyd o ganlyniad i’w ymosodiad dychrynllyd ac arswydus wrth iddi gerdded adref ar ôl noson gyda’i ffrindiau.

“Ni ddangosodd unrhyw edifeirwch am ei droseddau ar ôl ei gorfodi i ail-fyw’r profiad trawmatig drwy achos llys.

“Hoffwn ganmol yr urddas a’r dewrder y mae hi wedi’u dangos drwy gydol yr ymchwiliad, a’i dewrder wrth roi gwybod i ni am y digwyddiad hwn.

“Diolch byth, mae dedfryd heddiw wedi sicrhau nad yw Oladele ar y strydoedd, gan atal unrhyw niwed pellach i unrhyw un arall.”

Ychwanegodd: “Rwy’n gobeithio y bydd yn tawelu meddwl y cyhoedd bod Heddlu Gogledd Cymru wedi ymrwymo i atal pob digwyddiad o drais yn erbyn menywod a merched, ac yn gweithio’n ddiflino i sicrhau bod unrhyw un sy’n cyflawni cam-drin rhywiol y wynebu cyfiawnder.

“Byddwn yn annog unrhyw ddioddefwr ymosodiad rhywiol i gysylltu â ni. Bydd rhywun yn gwrando arnoch, bydd eich adroddiad yn cael ei gymryd o ddifrif a’i ymchwilio’n llawn. 

“Rydym yma i’ch cefnogi.”

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.