Carcharu dyn oedd â 'chenfigen rywiol' am lofruddio ymladdwr MMA
Mae dyn oedd â "chenfigen rywiol" wedi cael ei garcharu am o leiaf 23 mlynedd ar ôl llofruddio ymladdwr MMA.
Fe wnaeth Kai Pennell, 35 oed, drywanu Duane Keen, 47 oed, mewn fflat ym Mlaenafon, Torfaen, lle'r oedd menyw yr oedd y ddau ohonynt wedi bod mewn perthynas â hi o'r blaen, Rebecca Phillips, yn byw.
Clywodd Llys y Goron Caerdydd ddydd Mawrth fod Pennell wedi parhau i fod ag "obsesiwn" gyda Ms Phillips ar ôl iddyn nhw wahanu.
Roedd wedi trywanu Mr Keen yn ei frest ar ôl iddo dorri i mewn i fflat Ms Phillips yn ystod oriau mân bore 17 Hydref y llynedd.
Dywedodd Mrs Justice Stacey: "Roeddech chi’n ymddangos yn methu derbyn nad oedd hi eisiau bod mewn perthynas â chi.
"Ni fyddech chi’n ei gadael ar ei phen ei hun ac roedd gennych obsesiwn gydag a oedd hi’n gweld unrhyw un arall, gan gynnwys ei chyn-gariad, Duane Keen."
Clywodd Llys y Goron Caerdydd fod Pennell yn gyn-bartner i Ms Phillips, ond ei bod wedi dod â'u perthynas i ben ym mis Medi 2025.
Roedd Mr Keen hefyd yn gyn-bartner i Ms Phillips er bod y ddau wedi gwahanu ym mis Mai y flwyddyn honno.
'Cenfigennus iawn'
Dywedodd yr erlynydd, Christopher Rees KC: "Achos yr erlyniad yw bod [Pennell] wedi parhau i fod ag obsesiwn gyda hi ac yn genfigennus iawn.
"Cafodd Kai Pennell ei ysgogi gan genfigen rywiol i lofruddio Duane Keen."
Ar noson y llofruddiaeth, clywodd y llys fod Pennell wedi anfon nifer o negeseuon testun "aflonyddgar" at Ms Phillips.
A hithau'n teimlo’n anniogel, fe wnaeth Ms Phillips ofyn i Mr Keen ddod i’w chartref lle y gwnaeth Pennell ymosod arnynt ar ôl iddo dorri i mewn i’r eiddo a thrywanu Mr Keen yn ei frest.
Fe wnaeth Pennell ffoi'r lleoliad yn dilyn y digwyddiad, ond daeth yr heddlu o hyd iddo yn ddiweddarach y bore hwnnw.
Ddydd Mawrth, cafodd Pennell ei ddedfrydu i 23 mlynedd yn y carchar yn ogystal â gorchymyn atal sy'n yn ei wahardd rhag cysylltu â Ms Phillips.
Cafodd Mr Keen ei ddisgrifio yn y llys fel rhywun "adnabyddus" yn y gymuned MMA ond "yn gyntaf oll yn ddyn teulu".
Mewn datganiad, dywedodd ei deulu: "Er bod cyfiawnder wedi’i roi, ni fydd y ddedfryd o garchar am oes byth yn ddigon go iawn, gan ein bod ni’r teulu wedi colli ein hanwylyd na fydd byth yn cael byw ei fywyd ac mae’n rhaid i ni nawr fyw gweddill ein bywydau hebddo.
"Hoffem ni’r teulu ddiolch i’r heddlu, Gwasanaeth Erlyn y Goron a’r holl dîm sydd wedi gweithio’n ddiflino ar yr achos hwn ac wedi ein cefnogi drwy gydol y misoedd diwethaf."
