Siop M&S Abertawe i gau gyda dros 90 swydd yn y fantol
Bydd Marks & Spencer yn cau eu siop yng nghanol Abertawe sydd yn cyflogi dros 90 o staff.
Dywedodd y cwmni eu bod wedi penderfynu cau'r siop sydd wedi ei lleoli ar Stryd Rhydychen gan ei bod wedi "tangyflawni ers peth amser."
Mae 92 o bobl yn cael eu cyflogi yn y siop ar hyn o bryd, ac mae hi wedi bod yn gyrchfan boblogaidd i siopwyr y ddinas ers degawdau.
Cafodd staff eu hysbysebu fore Mawrth bod penderfyniad wedi'i wneud i gau'r siop. Fe fydd cyfnod o ymgynghoriad yn cychwyn er mwyn symud staff i siopau M&S eraill.
Mae disgwyl i'r siop gau yn hwyrach eleni.
Mae Cyngor Abertawe yn dweud eu bod yn siomedig gyda'r penderfyniad i gau'r siop yng nghanol y ddinas.
"Mae'r newyddion gan M&S yn siomedig i staff a siopwyr," meddai llefarydd ar ran y cyngor.
"Fe wnaeth M&S gadarnhau brynhawn Llun bod yr adeilad presennol a'r lleoliad bellach ddim yn addas ar gyfer eu model busnes, sydd eisoes wedi gweld 90 siop yn cau.
"Rydym wedi treulio blynyddoedd yn gweithio i atal M&S rhag cau yn y lleoliad hwn. Byddwn yn parhau i chwilio dros yr wythnosau a misoedd nesaf am leoliad newydd fydd yn cadw M&S yn y ddinas.
"Mae M&S wedi bod yn glir wrth ddweud nad yw y penderfyniad yn adlewyrchiad ar Abertawe fel lleoliad i siopwyr, ond yn rhan o'u strategaeth genedlaethol ehangach."
