'Mor falch o fod yn Gymraes': Ymateb Lauren Evans i’w gwobr BAFTA
Mae Lauren Evans, cyfarwyddwr castio o’r Hendy, wedi dweud ei bod “mor falch o fod yn Gymraes” yn dilyn ei buddugoliaeth yn ngwobrau’r BAFTA nos Sul.
Dywedodd hefyd ei bod mor falch o "gynrychioli lleisiau dosbarth gweithiol rhanbarthol. Yn enwedig yn y diwydiant hwn, lle mae yna rwystrau i fynd i mewn,” meddai.
“Pan dwi’n dechrau siarad ac maen nhw'n clywed fy llais, dwi’n meddwl fod pobl ella yn meddwl bod fi ychydig yn ditsy ac ella ddim yn dda iawn yn fy swydd.
"Felly mae'n golygu llawer i mi, ac i bobl eraill o Gymru, i weld cynrychiolaeth.”
Er ei llwyddiant, mae’n cyfaddef ei bod wedi amau ei gwerth yn ystod ei gyrfa.
“Weithiau mae rywfaint o amheuaeth yn sleifio i mewn. Ti’n gallu teimlo fel ‘imposter’. Ond mae'n teimlo fel fy mod efallai ar y trywydd iawn,” meddai yn dilyn y seremoni fawreddog yn Llundain nos Sul.
“Mae'r wobr yn gadarnhad bod be dwi’n neud yn gywir.”
Enillodd wobr BAFTA am y Castio Gorau am ei gwaith ar y ffilm I Swear, yn seiliedig ar fywyd John Davidson, ymgyrchydd o'r Alban dros syndrom Tourette's.
Dywedodd Lauren nad oedd realiti wedi "suddo i mewn eto" a'i fod yn dal i deimlo'n "hollol wallgof".
"Roeddwn i yn gallu gweld pobl yn anfon negeseuon i’n ffôn,” meddai.
"Ond allwn i ddim ymateb. Rwy'n dal i geisio mynd trwy'r holl negeseuon."
Yn ogystal â Lauren, enillodd Robert Aramayo, sydd yn chwarae rhan John Davidson yn y ffilm, Wobr yr Actor Gorau a Gwobr y Seren i’w gwylio.
Wrth drafod llwyddiant y ffilm, nododd Lauren ar ei effaith wrth ddod â phobl ynghyd a helpu i greu gwell dealltwriaeth o syndrom Tourette's.
“Mae’n stori emosiynol, am rhywun yn gwneud yn dda iawn, er gwaethaf y disgwyliadau,” meddai.
“Mae wedi dod â phobl ynghyd mewn sgwrs am wahaniaethau, a goddefgarwch a dealltwriaeth ac addysg. Mae wedi uno pobl.”
Dim ond ers 2019 y mae castio wedi cael ei ddyfarnu yn y BAFTAs, ac yn ddiweddarach eleni bydd yn cael ei gydnabod yn yr Oscars am y tro cyntaf.
“Gall castio wneud neu chwalu cynhyrchiad,” meddai Lauren, “Mae'n eithaf hwyr i ni gael ein cydnabod fel hyn.”
Llun: Reuters