Iechyd Cyhoeddus Cymru'n ymddiheuro am roi canlyniadau anghywir i brofion iechyd rhywiol
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi ymddiheuro am roi canlyniadau anghywir i brofion iechyd rhywiol "nifer fach o bobl" ym misoedd Tachwedd a Rhagfyr y llynedd.
Dywedodd Iechyd Cyhoeddus Cymru eu bod wedi "nodi nifer fach o bobl a dderbyniodd ganlyniadau profion ac atgyfeiriadau anghywir neu wedi’u hoedi".
Fe aeth y corff ymlaen i ddweud eu bod wedi cywiro unrhyw ganlyniadau anghywir "ar unwaith", gan roi gwybod i'r rhai oedd wedi cael eu heffeithio.
Daw'r ymddiheuriad ar ôl i adolygiad ddod i'r casgliad fod Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi profi problemau gyda'u Gwasanaeth Profi a Phostio Iechyd Rhywiol.
Yn ôl yr adolygiad, nid oedd prosesau diogelu ar gyfer pobl sy'n defnyddio'r Gwasanaeth Profi a Phostio Iechyd Rhywiol ar-lein a chymunedol yn effeithiol, nac yn bodloni'r safonau deddfwriaethol gofynnol.
Roedd hyn yn golygu bod Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi trosglwyddo gwybodaeth ddiogelu i fyrddau iechyd, yn hytrach nag i awdurdodau lleol.
Roedd y corff hefyd wedi cael problemau gyda'u prosesau trin data, yn ymwneud â data personol, nad oeddent yn effeithiol nac yn bodloni'r safonau.
Yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru, roedd y problemau yma yn ymwneud â materion gweinyddol mewnol yn bennaf.
Roedd achosion o anfon canlyniadau prawf i’r bwrdd iechyd anghywir, ond rhannwyd canlyniadau prawf a data personol cysylltiedig o fewn y GIG yn unig.
Ychwanegodd fod "nifer fach o bobl" wedi derbyn canlyniadau profion ac atgyfeiriadau anghywir neu wedi’u hoedi.
Ymchwiliad
Daeth Iechyd Cyhoeddus Cymru i wybod am y problemau ym misoedd Tachwedd a Rhagfyr 2025.
Yn dilyn hynny, dywedodd y corff eu bod wedi cynnal asesiad risg i sicrhau ei fod yn ddiogel i barhau â’r Gwasanaeth Profi a Phostio Iechyd Rhywiol.
Mae'r corff yn dweud eu bod wrthi'n adolygu achosion pobl a gysylltodd â'r gwasanaeth efallai nad ydynt wedi cael eu diogelu'n briodol, gan hefyd gynnal adolygiad o'r gwasanaeth i "wella prosesau, ansawdd a sicrwydd".
Dywedodd yr Athro Fu-Meng Khaw, cyfarwyddwr meddygol Iechyd Cyhoeddus Cymru, ei bod yn "ymddiheuro’n ddiffuant" i unrhyw un sydd wedi'i effeithio.
"Byddwch yn dawel eich meddwl ein bod wedi gweithredu ar unwaith i gywiro pethau," meddai'r Athro Fu-Meng Khaw.
"Mae ein gwasanaethau yma i chi o hyd, boed angen prawf iechyd rhywiol cyfrinachol arnoch wedi’i anfon i'ch cartref, mynediad at gondomau, neu gyngor ar unrhyw bryderon iechyd rhywiol – mae ein timau yma i'ch cefnogi."
Ychwanegodd: "Byddwn yn comisiynu ymchwiliad allanol annibynnol llawn i’r problemau hyn.
"Rydym wedi ymrwymo i ddysgu o’r profiad hwn a deall yn union beth aeth o’i le, fel y gallwn wella ein prosesau."
Llun: PA
