Russell Brand yn pledio’n ddieuog i ragor o droseddau rhyw
Mae Russell Brand wedi pledio’n ddieuog i ddwy drosedd rhyw ychwanegol, gan gynnwys cyhuddiad o dreisio.
Roedd yr actor a digrifwr, sy’n 50 oed, eisoes wedi gwadu dau gyhuddiad o dreisio, un cyfrif o ymosodiad anweddus a dau gyfrif o ymosodiad rhyw, oedd yn dyddio’n ôl i gyfnod rhwng 1999 a 2005 ac yn ymwneud â phedair menyw.
Yn Llys y Goron Southwark ddydd Mawrth, fe blediodd yn ddieuog i ddau cyhuddiad ychwanegol oedd yn dyddio’n ôl i 2009, sef treisio ac ymosodiad rhyw.
Honnir i’r ddau gyhuddiad diweddaraf ddigwydd yn Llundain.
Clywodd y llys fis Mai fod Russell Brand, o Sir Rydychen wedi ei gyhuddo o dreisio dynes mewn ystafell gwesty, tra'r oedd menyw yno ar gyfer cynhadledd y Blaid Lafur yn Bournemouth, yn ogystal â honiad iddo ymosod ar weithwraig yn y byd teledu mewn tai bach.
Llun: Russell Brand yn cyrraedd Llys y Goron Southwark ddydd Mawrth (PA)