Disgyblion ledled Cymru yn ffurfio cyfeillgarwch â disgyblion yn Wcráin
Bedair blynedd ers cychwyn ymosodiad milwrol Rwsia ar Wcráin, mae disgyblion ledled Cymru wedi bod yn ffurfio cyfeillgarwch a chadw mewn cysylltiad â chyd-ddisgyblion yn Wcráin drwy raglen newydd.
Mae ysgolion yn Ynys Môn, Pen-y-bont ar Ogwr a Wrecsam ymysg 130 o ysgolion yn y DU a Wcráin sy'n cymryd rhan yn rhaglen Partneriaethau Ysgolion y DU a Wcráin sy'n cael ei hariannu gan Lywodraeth y DU.
Mae'r rhaglen yn cysylltu ysgolion drwy weithgareddau darllen gyda'i gilydd, prosiectau creadigol a sesiynau rheolaidd ar-lein.
Mae disgyblion Blwyddyn 8 yn Ysgol David Hughes, Porthaethwy, Ynys Môn wedi creu cysylltiadau ag ysgol Lviv Lyceum Rhif 94 yng ngorllewin Wcráin.
Mae nifer o blant o Wcráin wedi ymuno â'r ysgol ers 2022, ac fe ddywedodd Jennifer Charlton, athrawes Saesneg yn yr ysgol, mai ei phrofiad o weithio gyda'r disgyblion o Wcráin wnaeth ei hysbrydoli i ymuno â'r rhaglen.
"Cafodd fy niddordeb yn y rhaglen ei sbarduno wrth weithio gyda disgyblion o Wcráin yn yr ysgol. Ac fel athrawes Saesneg, roedd gweithgareddau darllen y rhaglen yn apelio ataf," meddai.
"Yn ogystal, mae amcanion y rhaglen yn cydfynd ag amcanion datblygu cyffredinol ein hysgol - hybu hawliau plant, ymwybyddiaeth fyd-eang a helpu disgyblion i fod yn ddysgwyr hyderus, moesegol a chreadigol wrth ddilyn y cwricwlwm i Gymru."
Fe deithiodd Jennifer ym mis Medi i Wlad Pwyl i gwrdd â'i hathrawes bartner o Wcráin am y tro cyntaf.
"Ro'n i ychydig bach yn betrus cyn teithio - heb wybod sut y byddem ni'n cyfathrebu a gweithio gyda'n gilydd," meddai.
"Ond fe wnes i ac Olena glicio'n syth. Mae gyda ni ddiddordebau cyffredin a dulliau tebyg o addysgu a wnaeth y gwaith o gynllunio'r prosiect gymaint yn haws."
Mae'r disgyblion wedi bod yn darllen Alice in Wonderland, cyfnewid llythyrau, anfon parseli Nadolig a chymryd rhan mewn gweithgareddau creadigol fel creu blodau haul ac addurniadau traddodiadol.
Ychwanegodd Jennifer: "Yr hyn mae fy nisgyblion wedi'i fwynhau fwyaf - a dw i'n credu fod hyn yn wir ar y ddwy ochr - yw cyfnewid llythyron.
"Doedd llawer ohonynt erioed wedi cael pen pal o'r blaen, felly roedd derbyn rhywbeth personol gan blentyn o Wcráin, sydd wedi dewis ysgrifennu atyn nhw am eu bod yn rhannu'r un diddordebau, wedi bod yn rhywbeth arbennig iawn.
"Dw i'n meddwl ei fod wedi gwneud ein disgyblion ni'n fwy ymwybodol o'r hyn mae plant yr un oed â nhw mewn ysgolion eraill yn mynd drwyddo, a pha mor wydn ma' nhw'n gorfod bod. Ond mae hefyd wedi agor eu llygaid i'r byd ehangach."
Mae disgyblion Blwyddyn 7 yn Ysgol Brynteg ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn cydweithio ag ysgol Lyceum Burshtyn yn ne-orllewin Wcráin ar brosiect creu ac adrodd straeon.
Mae'r prosiect yn cael ei arwain gan Vaughan Gibson, athro arweiniol llythrennedd, ac fe ddywedodd ei fod am roi cyfle i'r disgyblion edrych y tu hwnt i'w milltir sgwâr a chysylltu â phobl ifanc mewn rhannau eraill o'r byd.
"Mae'n fater o feithrin empathi ac ymwybyddiaeth a'u helpu i weld fod gan blant mewn gwledydd eraill, er eu bod efallai'n byw bywydau gwahanol iawn, yn aml yn rhannu'r un diddordebau ac uchelgais â nhw," meddai.
Fe deithiodd Mr Gibson i Kraków yng Ngwlad Pwyl i gwrdd â'i athro bartner yn ogystal ag athrawon eraill sy'n cymryd rhan yn y rhaglen.
"Pan ddiolchodd un o'r cynrychiolwyr o Wcráin i ni am roi gwely diogel iddyn nhw am ddwy noson, fe wnaeth hynny argraff fawr arna i - roedd yn emosiynol. Roedd bod mewn ystafell gyda 50 o athrawon Wcreinaidd yn brofiad ysbrydoledig iawn," meddai.
Mae Ysgol Gynradd Yr Holl Saint yn Wrecsam wedi partneru ag Ysgol Nelipyno yng ngorllewin Wcráin, gyda disgyblion ym mlynyddoedd 5 a 6 yn defnyddio platfform Padlet i gynnal sgyrsiau un i un gyda'r disgyblion yn Wcráin.
Dywedodd Mark Szymura, Rheolwr Cyrhaeddiad a Chynhwysiant yr ysgol: "Mae cymuned ein hysgol yn teimlo'n angerddol am agor llygaid ein plant i'r byd ehangach.
"Mae cysylltiadau rhyngwladol yn cynnig profiadau i'r plant sy'n bell y tu hwnt i'w profiadau bob dydd, sy'n eu helpu i feithrin empathi a dealltwriaeth wirioneddol o ddiwylliannau a phrofiadau bywyd gwahanol."