Carcharu dau am eu rhan mewn ymosodiadau bomiau petrol yn y de
Mae dau ddyn wedi eu carcharu am gyfanswm o bron i 20 mlynedd yn dilyn tri digwyddiad o losgi bwriadol ym Mhontypridd a Chaerffili.
Cafodd Yasin Hussain, 18 oed, ac Adam Taylor-Morris, 19 oed, ill dau eu carcharu am naw mlynedd a naw mis yr un yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Llun.
Mewn gwrandawiad blaenorol, plediodd Hussain yn euog i dri chyhuddiad o losgi bwriadol gyda'r bwriad o beryglu bywyd.
Plediodd Taylor-Morris hefyd yn euog i'r un cyhuddiadau.
Teithio o'r Alban
Cafodd Hussain a Taylor-Morris eu gyrru i lawr o'r Alban ar ddiwrnod y digwyddiadau gan chwaer Taylor-Morris, Danni Taylor.
Digwyddodd y digwyddiad cyntaf ar Heol Porcher yn Glyncoch tua 04:00 ar fore Llun, 1 Mehefin 2026.
Cafodd y teulu yn y tŷ eu deffro pan chwalwyd ffenest yr ystafell fyw gan fricsen.
Yna, cafodd bom petrol "coctel Molotov" ei daflu gyda'r bwriad o'i anelu drwy'r ffenest oedd wedi ei thorri.
Chwalodd ar y llawr y tu allan i'r tŷ.
Ffoi mewn tacsi
Fe wnaeth Hussain a Taylor-Morris ffoi o'r lleoliad cyn dal dacsi i ardal Caerffili.
Digwyddodd yr ail ddigwyddiad yng Nghaerffili tua 07:00 ar yr un diwrnod, pan daflwyd bricsen trwy ffenest mewn tŷ ar Ffordd Wallis.
Yna taflwyd potel wydr yn llawn petrol trwy'r ffenestr; ac aeth y botel ar dân wrth daro'r llawr.
Cafodd y tân hwn ei ddiffodd yn gyflym.
Yna fe aeth y ddau ddyn mewn tacsi i'r trydydd digwyddiad, a ddigwyddodd tua 09:00 yr un diwrnod mewn eiddo ar Gilgaint Pearson yn Glyncoch.
Cafodd Hussain a Taylor-Morris eu gweld yn crwydro o gwmpas am sawl munud cyn agosau at yr eiddo.
Tra roedd Taylor-Morris yn ffilmio ar ei ffôn, taflodd Hussain goctel Molotov trwy ffenestr agored yr ystafell fyw, gan achosi i'r ystafell fynd ar dân.
'Bwriadol a pheryglus'
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Connor Michaels o Heddlu De Cymru: “Roedd y rhain yn ymosodiadau llosgi bwriadol a pheryglus a allai fod wedi arwain at ganlyniadau trychinebus, gan gynnwys anafiadau difrifol neu golli bywyd.
"Mae’r dedfrydau a roddwyd yn adlewyrchu difrifoldeb gweithredoedd y troseddwyr, a gobeithiwn y byddant yn rhybudd na chaiff ymddygiad mor fyrbwyll ei oddef.
"Hoffem hefyd ddiolch i Heddlu’r Alban a Heddlu Gwent am eu cymorth trwy gydol yr ymchwiliad.”
Bydd Danni Taylor, 24 oed, o Perth a Kinross - a blediodd yn euog i gymryd rhan yng ngweithgareddau troseddol grŵp troseddau trefnedig - yn cael ei dedfrydu yn ddiweddarach.
