Carchar wedi'i ohirio i bysgotwr o Bwllheli am dyfu canabis mewn sied
Mae llys wedi clywed fod pysgotwr o Bwllheli yng Ngwynedd a oedd wedi cael arian gan Lywodraeth Cymru i ehangu ei fusnes hefyd yn dyfwr canabis "medrus" gyda 48 o blanhigion a allai fod werth £40,000.
Fe wnaeth Dominic Rogowski, 30 oed, o Ffordd Mela yn y dref, gyfaddef iddo dyfu canabis mewn sied ardd y tu allan i’w gartref yn dilyn cyrch gan yr heddlu yn 2024.
Roedd wedi honni ei fod yn tyfu'r cyffur ar gyfer defnydd personol, ond roedd ganddo euogfarn flaenorol am gynllwynio i gyflenwi.
Cafodd ei ddedfrydu i ddwy flynedd o garchar, wedi'i gohirio am yr un cyfnod, yn Llys y Goron Caernarfon ddydd Gwener.
Bydd yn rhaid iddo hefyd dalu £337 mewn costau.
Dywedodd y bargyfreithiwr ar ran yr amddiffyniad, Elen Owen, fod y dystiolaeth yn awgrymu ei fod wedi gweithredu ar ei ben ei hun.
Ychwanegodd nad oedd Rogowski wedi ysmygu canabis ers i'r heddlu gymryd y planhigion oddi arno.
Byddai’n colli ei gwch a’i fusnes pe na bai’n gallu ei redeg, ac o bosibl yn colli ei wraig oherwydd ei rheolau fisa hi.