Canlyniadau economaidd ‘gwirioneddol’ i Gymru os yw rhyfel Iran yn parhau

Eluned Morgan

Mae Prif Weinidog Cymru wedi dweud y gallai'r rhyfel rhwng yr Unol Daleithiau ac Israel ag Iran gael effaith economaidd “gwirioneddol” ar Gymru.

Mae yna ofnau y gallai prisiau cynyddol gael effaith debyg i ymosodiad Rwsia ar Wcráin bedair blynedd yn ôl gan wthio prisiau ynni i fyny.

Mae pris nwy yn y DU eisoes wedi codi 46% ar ôl i un o swyddogion gwarchodlu Iran ddweud y bydden nhw’n cau Culfor Hormuz.

Mae nwy hylifol (LNG) o Qatar yn teithio drwy’r culfor i Aberdaugleddau yng Nghymru, ac mae un ym mhob pum casgen o olew hefyd yn gadael y Dwyrain Canol ar hyd y llwybr hwnnw.

Dywedodd cwmni Qatar Energy, sy’n berchen ar 67.5% o ganolfan LNG yn South Hook, Sir Benfro. Ddydd Llun eu bod yn rhoi'r gorau i gynhyrchu eu nwy hylif naturiol LNG am y tro oherwydd ymosodiadau Iran ar rai o'u canolfannau. 

Dywedodd Eluned Morgan ddydd Mawrth ei bod yn “cydnabod y gallai'r gwrthdaro gael canlyniadau gwirioneddol i aelwydydd a busnesau yng Nghymru os bydd yn parhau”.

“Byddai cynnydd pellach mewn costau ynni yn effeithio ar gyllidebau aelwydydd drwy brisiau petrol a gwresogi domestig uwch, gyda sgil-effeithiau posibl ar hyder defnyddwyr a'r economi fanwerthu ehangach,” meddai.

“Gallai hyn yn ei dro gynyddu chwyddiant yn uwch, gan olygu bod cyfraddau llog yn aros yn uwch am gyfnod hirach a bod y pwysau costau byw presennol yn parhau.

“Rydym yn monitro'r tarfu ar deithiau awyr yn y rhanbarth - sy'n amlwg yn arwyddocaol iawn - a'r potensial ar gyfer effeithiau anuniongyrchol ar Gymru, gan gynnwys drwy farchnadoedd ynni, masnach a chadwyni cyflenwi byd-eang. 

“Byddwn yn parhau i weithio gyda Llywodraeth y DU a phartneriaid i ddeall a lliniaru unrhyw effeithiau ar bobl, gwasanaethau a busnesau yng Nghymru.”

'Casineb'

Fe ychwanegodd Eluned Morgan bod materion tramor ac amddiffyn yn faterion ar gyfer Llywodraeth y DU ond ei bod wedi ei briffio gan swyddogion Cabinet y DU.

Dywedodd eu bod nhw’n goruchwylio unrhyw effaith bosibl ar gymunedau yng Nghymru yn agos.

“Nid oes lle yng Nghymru i gasineb na bygythiadau,” meddai.

“Rydym wedi cysylltu â phartneriaid cymunedol i roi adnoddau defnyddiol iddynt ac i'w hannog i roi gwybod inni am unrhyw densiynau sy'n codi. 

“Rydym yn parhau i weithio gyda phartneriaid, gan gynnwys llywodraeth leol, yr heddlu, a grwpiau cymunedol a ffydd i sicrhau bod pobl yn teimlo'n ddiogel.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.