Camau gorfodi ychwanegol yn erbyn cwmni o Lanelli yn dilyn pla pryfed
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cyhoeddi eu bod wedi cymryd camau gorfodi pellach yn erbyn cwmni ailgylchu yn Llanelli, yn dilyn cwynion gan drigolion a busnesau am bla o bryfed yn yr ardal yn ddiweddar.
Dywedodd y corff eu bod wedi cyflwyno'r camau newydd yn dilyn archwiliad pellach o safle AMG Resources Limited.
Mae hysbysiad atal dros dro wedi ei gyhoeddi, sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r safle roi'r gorau i dderbyn rhai mathau o wastraff.
Daeth y gorchymyn i rym am 18:00 nos Wener.
Mewn datganiad, dywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru: "Mae'r gweithredwr yn cydweithredu, ac mae hefyd yn ofynnol iddo gwblhau nifer o gamau gweithredu, gan gynnwys clirio a glanhau ardaloedd ar y safle, mynd i'r afael â materion a nodwyd gan swyddogion CNC a lleihau'r risg o effeithiau parhaus.
"Rydym yn deall pa mor ofidus a rhwystredig mae'r cynnydd mewn pryfed wedi bod i drigolion a busnesau yn ardal Glanymor yn Llanelli.
"Dros yr wythnosau diwethaf, rydym wedi bod yn gweithio'n agos gyda Chyngor Sir Caerfyrddin i ymchwilio i ffynhonnell y broblem. O'r cychwyn cyntaf, mae swyddogion wedi cynnal archwiliadau safle, monitro a gweithgareddau casglu tystiolaeth eraill i asesu nifer o ffynonellau posibl, a meithrin dealltwriaeth glir o'r achos.
"Wrth i'r ymchwiliad fynd rhagddo a chasglu rhagor o dystiolaeth, nodwyd AMG Resources fel ffynhonnell y cynnydd mewn pryfed.
"Mewn ymateb, gwnaethom gyhoeddi hysbysiad gorfodi sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r gweithredwr wella rheolaeth gwastraff ar y safle a sicrhau bod gweithrediadau yn dychwelyd i gydymffurfio ag amodau’r drwydded."
Dywedodd Cyfoth Naturiol Cymru y byddai ei swyddogion yn "parhau i fonitro'r safle hwn yn well", gan "ofyn i'r gweithredwr adolygu a gwella ei fesurau amddiffyn presennol ar y safle, i leihau'r risg y bydd hyn yn digwydd eto."
Llun: CNC
