Caernarfon: Ystyried cais i droi hen adeiladau'r llywodraeth yn fflatiau fforddiadwy
Bydd pwyllgor cynllunio Cyngor Gwynedd yn ystyried cynllun i drawsnewid hen adeiladau’r llywodraeth yng Nghaernarfon yng Ngwynedd yn fflatiau fforddiadwy ac yn ganolfan cymorth tai.
Fe wnaeth Cyngor Gwynedd brynu hen Adeiladau'r Goron yn ardal Penrallt o'r dref ym mis Mawrth 2024 fel rhan o’i Gynllun Gweithredu Tai.
Nod y cynllun yw darparu cartrefi lleol, lleihau’r ddibyniaeth ar lety brys anaddas, a chreu canolfan ganolog i ddarparu gwasanaethau cymorth tai i drigolion y sir.
Mae’r cais cynllunio’n cynnwys cadw rhan o’r adeilad fel swyddfeydd ar gyfer gwasanaethau cymorth ynghyd ag estyniadau ac addasiadau i’r adeilad presennol.
Yn ôl y cais cynllunio, bydd y swyddfeydd yn cael eu trawsnewid yn fflatiau un, dwy a thair ystafell wely, gydag unedau hygyrch i bobl ag anghenion ychwanegol.
Yn ogystal â’r fflatiau, bydd gan y datblygiad fan awyr agored, llefydd parcio a mynedia i’r safle.
Bydd man chwarae i blant, ardal ysmygu ac ardaloedd wedi’u tirlunio hefyd yn rhan o’r datblygiad newydd.
Bydd y ganolfan dai yn cynnig cymorth i bobl sy’n byw yn yr adeilad yn ogystal â thrigolion eraill Gwynedd.
'Cyfleuster y mae mawr ei angen'
Yn ôl y dogfennau cynllunio, nod y cynllun yw darparu "cyfleuster y mae mawr ei angen" i gefnogi anghenion tai yn yr ardal, drwy greu canolfan gymorth a darparu cartrefi newydd i bobl leol.
Mae'r cynllun ar gyfer y swyddfa yn cynnwys 15 i 18 o swyddfeydd agored, gyda swyddfeydd ar wahân i reolwyr.
Mae’r cynllun hefyd yn defnyddio’r cwrt presennol yng nghanol yr adeilad i greu "gardd ddiogel a chroesawgar" ar gyfer trigolion a staff.
Ar hyn o bryd mae’r ardal y tu allan i'r adeilad yn cynnwys palmant gyda grisiau’n arwain i lawr tuag at Allt Pafiliwn.
Fel rhan o’r datblygiad, bydd y cysylltiad presennol ag Allt Pafiliwn yn cael ei gau er mwyn sicrhau diogelwch y safle.
Mae'r cynllun yn nodi y bydd modd cael mynediad i’r ardd newydd drwy’r adeilad neu drwy ddwy giât ddiogel.
Bydd dwy brif fynedfa newydd i’r adeilad oddi ar Ffordd Pafiliwn, gyda llwybrau a grisiau newydd i wella mynediad.
Hanes yr adeilad
Cyn adeiladu Adeiladau’r Goron yn y 1970au, roedd y safle’n gartref i’r Pafiliwn enwog a oedd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer cyfarfodydd gwleidyddol, digwyddiadau diwylliannol a chyngherddau.
Ymhlith y rhai oedd wedi ymddangos yno oedd y cyn Brif Weinidog, David Lloyd George.
Yn ôl y dogennau cynllunio, roedd yr adeilad ar brydles i’r llywodraeth rhwng 1939 a 1956.
Erbyn dechrau’r 1960au roedd wedi dirywio’n sylweddol, ac yn 1961 penderfynwyd ei ddymchwel.
Cafodd hen Adeiladau’r Goron eu hadeiladu ar y safle yn 1974.
Er nad yw’r adeilad wedi’i restru, mae wedi bod yn destun dadlau dros y blynyddoedd.
Mae rhai pobl leol yn ei alw’n "Alcatraz" oherwydd ei ymddangosiad concrit trawiadol.
