Caernarfon yn croesawu'r Ŵyl Cerdd Dant i'r dref am y tro cyntaf ers 30 mlynedd

Cerdd Dant

Bydd tref Caernarfon yn croesawu'r Ŵyl Cerdd Dant i'r dref y penwythnos hwn, a hynny am y tro cyntaf ers 30 mlynedd.

Yn ôl y trefnwyr, fe fydd yna fwy nag erioed o gystadleuwyr eleni.

Bydd ystod eang o gystadlaethau a pherfformiadau yn cael eu cynnal yng nghanolfan Galeri, gan gynnwys Cerdd Dant, Canu Gwerin, Llefaru, Dawnsio Gwerin, cystadlaethau'r delyn a barddoniaeth.

Mae disgwyl i gannoedd o gystadleuwyr, cefnogwyr ac ymwelwyr deithio i Gaernarfon ar gyfer y digwyddiad.

'Mynd o nerth i nerth'

Ar drothwy'r ŵyl eleni, dywedodd Cefin Roberts, Cyd-gyfarwyddwr Glanaethwy, fydd yn cystadlu yn ystod y penwythnos, ei fod yn edrych ymlaen yn fawr at y digwyddiad.

"Dwi fy hun wrth gwrs yn falch bod 'na gyfle weithiau i arbrofi yn yr Ŵyl Gerdd Dant - mae rhaid torri ffiniau weithiau - torri rheolau ambell dro hyd yn oed, a da ni'n mwynhau hynny hefyd.

"Her ydi o, ond yn fwy na dim mae o'n rhan o'n cynhysgaeth ni. 

"Mae o'n gymysgfa o bethau sy'n draddodiadol i ni fel Cymry a dyna pam dwi'n meddwl bod yr ŵyl yn mynd o nerth i nerth."

Tlws Coffa Leah Owen

Bydd Tlws Coffa Leah Owen yn cael ei gyflwyno yn ystod yr ŵyl fel gwobr i ddathlu un o hoelion wyth y byd cerdd dant, a theulu Leah Owen yn falch o'r cyfle i'w chofio.

Dywedodd Gwenno Llwyd Beech, wyres y diweddar Leah Owen wrth raglen Newyddion S4C ei bod yn cofio'r balchder oedd ganddi rhwng cyswllt Leah Owen â'r ŵyl:

"Dwi'n cofio ymarfer hefo nain, a dwi'n cofio gwario amser yn yr ystafell biano a chwerthin a jyst edrych ymlaen gymaint, ac o ni wastad yn teimlo balchder bo fi'n mynd i'r Ŵyl Cerdd Dant a Leah Owen oedd nain," meddai.

'Pleser mawr'

Yn ôl y Cynghorydd Medwyn Hughes, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros Economi a Chymuned, mae'n "bleser mawr" cael gweld yr Ŵyl Cerdd Dant yn dychwelyd i Gaernarfon ar ôl tri degawd.

Dywedodd hefyd ei fod yn "edrych ymlaen at groesawu'r cystadleuwyr, y perfformwyr a'r ymwelwyr i Gaernarfon ac i Wynedd."

Dywedodd Dafydd Roberts, Cadeirydd Pwyllgor Gwaith Gŵyl Cerdd Dant 2026, fod y "bar wedi ei osod yn uchel i ni yng Nghaernarfon eleni" wedi llwyddiant "diamheuol" Gŵyl Aberystwyth a’r Fro'r llynedd.

"Mae’r Ŵyl, yn naturiol, yn mynd ar ofyn trigolion yr ardal am nawdd, ac rydym yn hynod ddiolchgar am y gefnogaeth hael gan Gyngor Gwynedd, y Cyngor Tref a Chynghorau Cymuned Arfon, yn ogystal â Hwb Caernarfon a nifer o fusnesau lleol," meddai.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.