Caernarfon: Croen dafad wedi ei 'rwygo oddi ar ei chorff'

Defaid

Rhybudd: Gall rhai o'r delweddau isod beri gofid.

Mae Heddlu Gogledd Cymru yn apelio am wybodaeth ar ôl dod o hyd i famog frith mewn cae yn Ninas Dinlle gyda'i "chroen a'i gwlân" wedi'u "rhwygo oddi ar ei chorff".

Yn ystod nos Sul 30 Awst, cafodd y famog frith ei hymosod arni mewn cae ger maes awyr Caernarfon, gydag anafiadau i'w hochr a'i choesau ôl.

Fe ddywedodd Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu Rhys Evans o'r Tîm Troseddu Cefn Gwlad y byddai hynny wedi gofyn am "gryn dipyn o rym", gan awgrymu mai ci mawr oedd yn gyfrifol.

Ychwanegodd Mr Evans: "O ganlyniad i’r digwyddiad, mae’r mamogiaid eraill wedi cael eu symud o’r caeau ers hynny.

"Rydym unwaith eto yn annog perchnogion cŵn i gadw eu cŵn ar dennyn wrth gerdded mewn caeau lle mae da byw yn bresennol, er mwyn peidio ag achosi gofid nac anaf i’r anifeiliaid.

"Gofynnir i unrhyw un a oedd yn cerdded ci drwy’r caeau ar y pryd ac sydd â gwybodaeth i gysylltu â ni.”

Image
Dafad wedi anafu Caernarfon
Llun o'r famog frith wedi'i hanafu

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.