Caergybi: Agor cwest i farwolaeth dyn sy'n destun ymchwiliad llofruddiaeth
Mae cwest i farwolaeth dyn o Gaergybi fis diwethaf wedi clywed ei fod wedi marw o ganlyniad i anafiadau i'w ben a'i wddf.
Bu farw Michael Anthony Ward, 53 oed, yn ei fflat yn Llys Watling yn y dref yn ystod oriau mân 15 Hydref.
Cafodd mab 33 oed Mr Ward, Martin Ward, ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth.
Roedd Michael Ward yn enedigol o Wolverhamton, ac roedd yn ddi-waith.
Wrth agor cwest i’w farwolaeth yng Nghaernarfon ddydd Mercher, dywedodd Sarah Riley, Crwner Cynorthwyol Gogledd Orllewin Cymru bod y gwasanaethau brys wedi eu galw i’w fflat yn dilyn adroddiad o berson yn dioddef ataliad ar y galon.
Bu farw Mr Ward yn y fan a’r lle, gyda pharafeddygon yn cadarnhau ei farwolaeth am 03.01.
Cafodd archwiliad post mortem ei gynnal ar Michael Ward gan batholegydd y Swyddfa Gartref, Dr Metcalfe, yn Ysbyty Athrofaol Lerpwl.
Daeth yr archwiliad cychwynnol i'r canlyniad bod Michael Ward wedi marw o anafiadau i’w ben a’i wddf.
Dywedodd y crwner wrth y llys: “Rwyf nawr am ohirio’r cwest i farwolaeth Michael Anthony Ward, er mwyn gadael i achosion troseddol barhau.”
Mewn teyrnged fis diwethaf, dywedodd teulu Mr Ward y byddai colled fawr ar ei ôl:
"Roedd ein tad yn ddyn teulu cariadus hefo calon fawr. Bydd colled fawr ar ei ôl.
"'Da ni'n gofyn i bobl barchu ein preifatrwydd ni yn y cyfnod anodd hwn wrth i ni ddod i delerau â'n colled ni."