Cadw tri yn y ddalfa mewn cysylltiad â llosgi ambiwlansys Iddewig yn Llundain

Ambiwlansys Hatzola

Mae dau ddyn a bachgen wedi cael eu cadw yn y ddalfa ar ôl ymddangos yn y llys ddydd Sadwrn wedi’u cyhuddo o losgi pedwar ambiwlans cymunedol Iddewig yn Llundain.

Cafodd pedwar ambiwlans o Hatzola - gwasanaeth ambiwlans cymunedol Iddewig sy'n gweithredu yn ardal Golders Green yng ngogledd-orllewin y ddinas - eu rhoi ar dân yn oriau mân 23 Mawrth, gan achosi i ganiau nwy a oedd yn cael eu storio yn y cerbydau ffrwydro.

Cafodd dau ddyn o Brydain - Hamza Iqbal, 20 oed, a Rehan Khan, 19 oed - a bachgen 17 oed sy'n ddinesydd Prydeinig-Pacistanaidd, eu cyhuddo o losgi bwriadol ar ôl cael eu harestio fel rhan o ymchwiliad Plismona Gwrthderfysgaeth (CTP).

Ni wnaeth yr un ohonyn nhw gyflwyno ple a chawsant eu cadw yn y ddalfa yn ystod y gwrandawiad 45 munud yn Llys Ynadon Westminster.

Clywodd y llys fod pedwerydd person wedi cael ei arestio mewn cysylltiad â’r digwyddiad yn y llys fore Sadwrn.

Dywedodd yr erlynydd Emma Harraway wrth y llys: "Mae tystiolaeth sylweddol bod hwn yn ymosodiad bwriadol a oedd yn targedu'r gymuned Iddewig."

Nid yw erlynwyr yn gwybod eto beth oedd y cymhelliant tu ôl i'r ymosodiad honedig, a oedd wedi targedu'r ambiwlansys yn benodol, clywodd y llys.

Nid yw’r achos yn cael ei drin fel terfysgaeth, ond dywedodd CTP fod yr ymchwiliad yn cael ei arwain gan ei dditectifs oherwydd "amgylchiadau’r digwyddiad".

Dim ond i gadarnhau eu manylion personol y siaradodd y diffynyddion yn ystod y gwrandawiad, a gafodd ei gynnal o flaen oriel gyhoeddus.

Wrth i Iqbal, a oedd yn gwisgo tracsiwt lwyd yn y doc, gael ei gludo i'w gell, dywedodd aelod o'r oriel gyhoeddus: "Cymer ofal, fab."

Clywodd y llys fod Khan, a oedd hefyd yn gwisgo tracsiwt lwyd, yn fyfyriwr coleg.

Cafodd y ddau eu cadw yn y ddalfa, gyda'r bachgen 17 oed - nad oes modd ei enwi am resymau cyfreithiol - wedi'i roi mewn llety cadw ieuenctid.

Bydd y tri diffynnydd yn ymddangos yn yr Old Bailey ar 24 Ebrill.

Cafodd dau ddyn arall, 45 a 47 oed, a gafodd eu harestio'r wythnos diwethaf, ac sydd hefyd yn Brydeinig, eu rhyddhau ar fechnïaeth tan ddiwedd mis Ebrill.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.