Cadarnhau 'ymosodiad seiber' bwriadol ar systemau'r Adran Waith a Phensiynau

DWP Ymosodiad Seiber Llun: Yui Mok/Press Association

Mae swyddogion wedi cadarnhau mai ymosodiad seiber bwriadol oedd y digwyddiad a orfododd Llywodraeth y DU i dynnu gwasanaethau budd-daliadau a phensiynau ar-lein i lawr.

Bu’n rhaid i’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) roi rhai o’i systemau ar stop ar ôl y digwyddiad fore Gwener, gyda nifer o'r gwasanaethau'n parhau i fod i lawr ddydd Sadwrn.

Mae'n effeithio ar wefannau sy'n delio â'r pensiwn gwladol a budd-daliadau fel credyd cynhwysol a PIP.

Dywedodd llefarydd ar ran yr adran bod 'na "ymgais i gael mynediad anawdurdodedig i'n systemau" wedi bod.

Ychwanegodd swyddogion bod dim tystiolaeth bod unrhyw ddata personol wedi ei ryddhau a bod taliadau yn parhau i gael eu prosesu fel arfer.

Dywedodd y llefarydd: "Mae ein tîm ac arbenigwyr seiber yn parhau i ymchwilio i ymosodiad seiber ar systemau'r DWP.

"Ochr yn ochr â'r Ganolfan Diogelwch Seiber Genedlaethol a Chanolfan Cydlynu Seiber y Llywodraeth, rydym yn gweithio i ddeall achos yr ymgais i gael mynediad anawdurdodedig i'n systemau."

Fe ychwanegodd bod gan yr adran gynlluniau wedi eu paratoi ar gyfer sefyllfaoedd o'r fath, a bod y rheiny wedi cael eu gweithredu yn syth.

Cyfres o ddigwyddiadau seiber

Dywedodd Downing Street ddydd Gwener nad oedd 'na dystiolaeth bod unrhyw un â "bwriad maleisus" wedi targedu adrannau eraill o’r Llywodraeth.

Tan brynhawn Sadwrn, doedd dim sicrwydd mai ymosodiadad bwriadol oedd tu ôl i'r digwyddiad ond ar raglen Newsnight y BBC nos Wener fe ddywedodd David Knott, a oedd yn arwain gwaith technoleg y Llywodraeth tan fis Rhagfyr 2025, ei fod yn “amau’n gryf mai ymosodiad oedd hwn.”

Mae’r DWP yn gwneud tua 2.5 miliwn o daliadau rheolaidd bob dydd, ac er bod adroddiadau o oedi, mae'r awdurdodau'n dweud nad yw’r oedi presennol yn gysylltiedig â’r digwyddiad seiber.

Y digwyddiad yw’r diweddaraf mewn cyfres hir o ddigwyddiadau seiberddiogelwch sydd wedi effeithio ar y DU yn ddiweddar.

Yn gynharach y mis hwn, dywedodd nifer o gyflenwyr cig yn y DU fod tymheredd eu hoergelloedd wedi codi dros nos, ar ôl iddynt gael eu heffeithio gan ymosodiadau seiber a oedd yn targedu meddalwedd sy’n cael ei ddefnyddio gan archfarchnadoedd ledled Ewrop.

Yn ystod yr wythnosau diwethaf, mae’r manwerthwyr ffasiwn Next ac ASOS ill dau wedi adrodd am ddigwyddiadau ar wahân lle cafwyd fynediad at rywfaint o ddata heb awdurdod.

Dywedodd corff gwarchod diogelu data’r DU ei fod mewn cysylltiad â’r DWP ynglŷn â’r digwyddiad.

Prif lun: Yui Mok/Press Association 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.