‘Byth yn meddwl y byddai gen i gysylltiad ag Aberfan’: Menyw yn galw ar San Steffan i ddiogelu tomenni glo Cymru
“Doeddwn i byth yn meddwl y byddai gen i gysylltiad ag Aberfan, ond dyma ni.”
Dyna sut mae Tina Honeyfield yn edrych yn ôl ar y foment ym mis Tachwedd 2024 pan welodd hen domen lo uwchben ei chartref yng Nghwmtyleri, Blaenau Gwent, yn llithro i lawr i’r pentref wrth iddi fwyta swper gyda’i theulu.
Cafodd cartref Tina a’i phartner, Ralph Connor, ei ddifrodi’n ddifrifol ar ôl i afon o wastraff o’r domen lifo drwy’r strydoedd yn ystod Storm Bert.
“Nes i agor y drws ffrynt a doeddwn i ddim yn gallu gweld y stryd,” meddai Tina Honeyfield wrth Newyddion S4C.
“Doeddwn i ddim yn gallu adnabod dim byd o fy mlaen… roedd e fel afon o fwd.”
Dwy flynedd yn ddiweddarach, mae Tina a’i theulu yn parhau i fyw mewn tŷ rhent tra bod eu cartref yn cael ei atgyweirio.
Nawr, 60 mlynedd ers Aberfan, mae hi'n galw ar Lywodraeth y DU i ariannu’r gwaith o ddiogelu hen domenni glo yng Nghymru wrth i’r hinsawdd newid.
Daw ei galwad wrth i adroddiad newydd gan Lywodraeth Cymru a’r Awdurdod Adfer Safleoedd Mwyngloddio rybuddio mai glawiad yn y dyfodol yw’r ffactor hinsawdd pwysicaf wrth asesu a rheoli’r risgiau sy’n gysylltiedig â hen domenni glo yng Nghymru.
Ond mae’r adroddiad hefyd yn nodi nad oes digon o ddata ar hyn o bryd i wybod sut y bydd tomenni unigol yn ymateb i wahanol lefelau o lawiad.
Mae hynny’n ei gwneud hi’n anoddach rhagweld pa safleoedd allai fod fwyaf mewn perygl wrth i batrymau tywydd newid.
Pam fod glaw yn bryder?
Mae mwy na 2,500 o hen domenni glo yng Nghymru, gyda mwy na 350 ohonynt yn cael eu hystyried yn rhai a allai effeithio ar ddiogelwch y cyhoedd.
Gall hen domenni glo - sef pentyrrau o wastraff mwyngloddio - fod yn ansefydlog, yn enwedig yn ystod cyfnodau o law trwm.
Mae adolygiad o fethiannau tomenni glo hanesyddol wedi dangos cysylltiad cryf rhwng digwyddiadau o’r fath a chyfnodau o law.
Daeth y risgiau hynny i’r amlwg yn 2020, adeg tirlithiadau ym Mhendyrus ac Aberllechau yng Nghymoedd y De.
Ym Mhendyrus, llithrodd 60,000 o dunelli o falurion i Afon Rhondda Fach ar ôl sawl diwrnod o law trwm yn sgil Storm Dennis.
Ond nid yw glaw trwm ar ei ben ei hun yn golygu y bydd tomen lo yn llithro.
Mae Dr Mohammad Rezania o Brifysgol Warwick yn ymchwilio i ddeunydd o domenni glo, gan gynnwys y domen ym Mhendyrus.
Dywedodd mai dŵr yw un o’r prif ffactorau sy’n gallu effeithio ar sefydlogrwydd tomen, yn enwedig pan fydd glaw trwm yn disgyn dros gyfnod byr.
“Dŵr sy’n achosi’r problemau, yn enwedig pan mae’n cael ei gyflwyno mewn cyfnodau byr,” meddai.
Yn ôl Dr Rezania, mae’r newid rhwng cyfnodau byr o law trwm a chyfnodau sych iawn yn arwain at fwy o amrywiadau yn lefelau dŵr y ddaear.
Ond mae’n pwysleisio bod ffactorau eraill hefyd yn penderfynu a fydd tomen yn methu ai peidio.
Mae sefydlogrwydd pob tomen yn dibynnu ar ffactorau gan gynnwys ongl y llethr, priodweddau’r deunydd a sut mae dŵr yn symud drwyddi.
“Os dywedwch wrthyf fod y domen wedi profi glawiad trwm iawn dros yr wythnos ddiwethaf, a yw’r risg bellach yn uwch? Byddwn i’n dweud ie. Ond os gofynnwch i mi, a yw hyn yn mynd i fethu? Byddwn i’n dweud, nid o reidrwydd,” meddai.
Mae hynny’n golygu bod angen mwy o ddata ar gyfer tomenni unigol, meddai, er mwyn deall sut y bydd pob un yn ymateb i wahanol lefelau o lawiad.
Yn y cyfamser, mae’n dweud mai monitro ac arolygu’n rheolaidd, a sicrhau bod systemau draenio’n gweithio, yw’r ffyrdd mwyaf cost-effeithiol o leihau’r risg.
Ond mae deall y risg yn un peth - ei rheoli yw’r her.
Ers 2020, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo £230 miliwn i ddiogelu tomenni glo, gydag awdurdodau lleol yn hawlio tua £74 miliwn o’r swm hwnnw.
Mae mwy na 3,600 o arolygiadau wedi cael eu cynnal dros y chwe mlynedd diwethaf, meddai’r llywodraeth, sy’n dweud ei bod yn parhau i gefnogi’r gwaith o reoli a chynnal tomenni glo. Mae cynllun grant hefyd yn cefnogi gwaith rheoli a gwella ar fwy na 400 o domenni rhwng nawr a 2029.
'Cyfrifoldeb San Steffan'
Mae’r adroddiad newydd yn galw am well data, arolygiadau sy’n ystyried gwahanol dymhorau a gwaith peirianyddol sy’n ystyried effaith hinsawdd y dyfodol.
Ond yn ôl Tina Honeyfield, mae angen i gymunedau sy’n byw ger hen domenni glo wybod mwy am y risgiau sy’n eu hwynebu a’r hyn sy’n cael ei wneud i ddiogelu’r tomenni.
Dywedodd nad oedd hi’n ymwybodol cyn y tirlithriad yng Nghwmtyleri bod y domen uwchben ei chartref wedi’i dosbarthu fel safle Categori D, y lefel risg uchaf.
Mae hi’n credu bod angen mwy o wybodaeth i drigolion am gyflwr tomenni a pha waith sy’n cael ei wneud i’w gwneud yn fwy diogel.
“Maen nhw [yr awdurdodau] yn aros i rywbeth ddigwydd cyn ei drwsio,” meddai.
“Ni ddylai hynny ddigwydd oherwydd ar ôl Aberfan ni ddylai unrhyw beth fel hyn fod wedi digwydd.”
Fe wnaeth Newyddion S4C wneud cais am ymateb gan Lywodraeth y DU, ond dywedodd mai Llywodraeth Cymru oedd “yn y sefyllfa orau” i ymateb.
Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod wedi ymrwymo i sicrhau bod hen domenni glo yn cael eu monitro, eu cynnal a’u rheoli’n briodol.
“Rydym yn cefnogi Cyngor Blaenau Gwent i ddiogelu safle Cwmtyleri a safleoedd eraill yn yr hirdymor, gan gynnwys sicrhau bod mwy na £5 miliwn ar gael ym mis Mawrth 2026,” meddai llefarydd.
“Rydym yn cyhoeddi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddiogelwch tomenni fel y gall cymunedau weld beth sy'n cael ei wneud a pham.
“Rydym hefyd yn gweithio gyda'r Swyddfa Dywydd a'r Awdurdod Adfer Safleoedd Mwyngloddio i ddeall yn well sut mae glawiad trymach yn effeithio ar ddiogelwch tomenni.
“Mae ein cydymdeimlad yn parhau gyda phawb yr effeithiwyd arnynt gan y tirlithriad bron i ddwy flynedd yn ôl.”
Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud y gallai’r gwaith o wneud y tomenni’n fwy diogel gymryd 10 i 15 mlynedd neu fwy.
Ond mae Tina Honeyfield yn credu bod cyfrifoldeb ehangach ar Lywodraeth y DU hefyd, ac y dylai San Steffan dalu’n llawn am y gwaith o ddiogelu’r tomenni yng Nghymru, gan fod trychineb Aberfan wedi digwydd cyn datganoli.
“Cyfrifoldeb San Steffan oedd hyn,” meddai.
“Ac fe ddylai fod wedi bod yn gyfrifoldeb ar San Steffan hefyd i sicrhau bod yr holl domenni ar draws Cymru a gweddill y wlad yn ddiogel.
“Rwy’n credu bod dyletswydd ar San Steffan i unioni’r sefyllfa honno.”
Er gwaethaf popeth, mae Tina yn gobeithio y bydd hi a’i theulu yn gallu dychwelyd i’w cartref yng Nghwmtyleri yn y gwanwyn.
Ond mae’n dweud na fydd hi byth yn teimlo’n gwbl ddiogel yno.
“Does gennym ni ddim dewis ond mynd yn ôl,” meddai.
“Dyma ein cartref ni.”