Byddai pobl Yr Alban yn cefnogi annibyniaeth petai ail refferendwm meddai arweinydd yr SNP
Fe fyddai pobl yr Alban yn dangos cefnogaeth "rymus" i'r “cyfle euraidd” o annibyniaeth petai ail refferendwm ar y pwnc yn cael ei gynnal, meddai’r Prif Weinidog John Swinney.
Defnyddiodd arweinydd yr SNP ddatganiad ar ddiwrnod cyntaf Holyrood ar ôl yr etholiad i nodi ei gynlluniau am y pum mlynedd nesaf - gydag annibyniaeth yn ganolog i'r cynlluniau hynny.
Byddai gadael y DU yn rhoi “mwy o ffyniant” i’r Alban, o ganlyniad i’r wlad yn cael rheolaeth dros ei hynni a'r gallu i ailymuno â’r Undeb Ewropeaidd, meddai.
Y tro diwethaf i'r wlad gael refferendwm ar annibyniaeth yn 2014, pleidleisiodd 55.3% yn erbyn a 44.7% o blaid gadael y Deyrnas Unedig.
Wrth siarad ar ddechrau dadl lle mae Llywodraeth yr Alban yn galw ar San Steffan i gyflwyno gorchymyn Adran 30 i ganiatáu cynnal ail refferendwm, siaradodd John Swinney am sut y byddai annibyniaeth yn rhoi “partneriaeth o'r newydd” i’r wlad gyda’r Undeb Ewropeaidd ynghyd â “rheolaeth dros ein cyfoeth ynni ein hunain”.
Ychwanegodd y Prif Weinidog: “Gyda’i gilydd, mae’r rhain yn cynnig cyfle euraidd i’r Alban, ac mae’n un rwy’n credu y bydd pobl yn pleidleisio drosto’n ysgubol pan fydd gan ein cenedl, unwaith eto, y gallu i benderfynu ar ein dyfodol ein hunain mewn refferendwm annibyniaeth.”
Er ei fod yn derbyn bod “San Steffan ar hyn o bryd yn dweud na” i alwadau am refferendwm arall, dywedodd arweinydd yr SNP mai dadl ddydd Mawrth yn Holyrood oedd “dechrau proses” y mae’n credu y bydd yn arwain at weinidogion y DU yn cefnogi refferendwm arall, gyda’r Albanwyr wedyn yn pleidleisio “ie i annibyniaeth”.
'Dechrau newydd'
Dywedodd mai annibyniaeth fyddai'r “dechrau newydd y mae ei angen cymaint ar yr Alban” wrth iddo ddweud wrth ASau mai dyma’r “dyfodol y gall y Senedd hon ei gymeradwyo heddiw”.
Daeth ei sylwadau wrth iddo siarad yn eang am gynlluniau Llywodraeth yr Alban i hybu’r economi, gwella’r GIG, a dileu tlodi plant - mater a alwodd yn un a oedd yn “foesol anghywir”.
Dywedodd arweinydd Llafur yr Alban, Anas Sarwar, fod y ddadl yn “gyfle a gollwyd” i drafod materion eraill yn yr Alban fel y ddadl gyntaf yn Senedd newydd yr Alban.
Dywedodd: “Os edrychwch ar gydbwysedd y cynnig y mae gofyn i ni bleidleisio arno heddiw, mae’n ymwneud yn bennaf ag un mater ac un mater yn unig, a dyna unig uchelgais Prif Weinidog yr SNP a’r holl obsesiwn, a dyna fater annibyniaeth, ac rwy’n credu bod hynny’n gyfle a gollwyd yn y ddadl gyntaf hon yn y Senedd newydd hon.”
Beirniadodd arweinydd y Ceidwadwyr yn yr Alban, Russell Findlay, Mr Swinney am ddewis trafod annibyniaeth ddiwrnod ar ôl i ŵr y cyn-brif weinidog Nicola Sturgeon, Peter Murrell, gael ei garcharu am ddwyn arian yr SNP.
“Mae amseriad y ddadl heddiw yn chwerthinllyd", meddai.
Mae Mr Murrell a Ms Sturgeon wedi gwahanu.
Ni gyflwynodd Reform welliant ond mynegodd yr arweinydd Malcolm Offord bryder am y cynnig.
Dywedodd: “Pam mae’r SNP yn ymroi i drafod materion sydd wedi’u cadw’n ôl i San Steffan yn barhaus?
“Mae’n...strategaeth o wyro oherwydd nad ydyn nhw eisiau canolbwyntio ar yr hyn maen nhw wedi’i wneud o ddydd i ddydd.”
