Gwynedd: Ymchwiliad llofruddiaeth yn dilyn marwolaeth dyn 34 oed ar draeth
Mae ymchwiliad i lofruddiaeth wedi dechrau yng Ngwynedd yn dilyn marwolaeth dyn 34 oed.
Dywedodd Heddlu'r Gogledd fod swyddogion bellach yn apelio am dystion i'r digwyddiad ar draeth Y Bermo ddydd Llun.
Ychwanegodd y llu fod y gwasanaethau brys wedi cael eu galw i'r traeth yn dilyn adroddiadau bod dyn yn y dŵr ychydig ar ôl 15.00.
Er gwaethaf eu hymdrechion, bu farw'r dyn yn y fan a'r lle.
Mae ei berthnasau agosaf a'r crwner wedi cael gwybod am ei farwolaeth.
Cafodd dyn 24 oed o ardal Birmingham ei arestio yn ddiweddarach ar amheuaeth o lofruddiaeth, ac mae'n parhau yn y ddalfa wrth i'r heddlu ymchwilio.
Mae'r Uwcharolygydd Chris Bell yn apelio ar unrhyw un a oedd ar draeth Bermo ac a welodd y digwyddiad i gysylltu â'r heddlu.
"Rwyf hefyd yn apelio ar bawb a oedd ar y traeth rhwng 14.00 a 16.00 a dynnodd unrhyw luniau a fideos i'w hanfon atom cyn gynted â phosib," meddai.
"Mae gennym ddiddordeb yn yr holl luniau neu fideos a dynnwyd ar unrhyw ran o'r traeth yn ystod y prynhawn. Gallai unrhyw ddelwedd fod yn berthnasol i'n hymchwiliad, a bydd fy nhîm o ymchwilwyr yn eu hadolygu i weld a ydynt o unrhyw werth fel tystiolaeth i'n hymholiadau.
"Gallai eich help ar y mater hwn fod yn hanfodol i ddeall trefn y digwyddiadau a wnaeth arwain at farwolaeth y dyn."
Ychwanegodd: "Hoffwn bwysleisio nad ydym yn chwilio am unrhyw un arall mewn perthynas â'r digwyddiad hwn a bydd mwy o bresenoldeb heddlu yn yr ardal yn ystod y dyddiau nesaf at ddibenion tawelu meddwl y gymuned.
"Rydym yn cydymdeimlo â theulu'r dyn ar yr adeg anodd hon."